Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn misoedd olaf 1846, tra yr oedd y tri yspïwyr Seisonig eto ar waith yn chwilio i ansawdd addysgol a moesol y Dywysogaeth, ymddangosodd cyfres o lythyrau yn y Cardiff and Merthyr Guardian Addysg yn Nghymru," oddiwrth un a ffugenwai ei hun Cambro-Sacerdos," neu "Offeiriad Cymreig." Yn ngwanwyn 1847 ymddangosai cyfres arall o lythyrau o'r un nodwedd yn y John Bull, prif newyddiadur Eglwysig y Brifddinas, gan un "Ordovicis."

Yn y gyfres ddiweddaf ymdrechai yr awdwr ateb araeth Mr. John Bright (A.S. y pryd hwnw dros Durham) yn Nhŷ y Cyffredin yn erbyn anghyfiawnder Cynllun Addysg Eglwysyddol y Llywodraeth yn ei gysylltiad â Chymru—gwlad, fel y dangosai trwy ystadegau, yr oedd naw o bob deg o'i phoblogaeth yn cael eu haddysgu gan Ymneillduwyr. Y gosodiad yr ymgymerai "Ordovicis" ei brofi yn erbyn Mr. Bright oedd, "Os ydyw naw o bob deg yn cael eu haddysgu gan Ymneillduwyr, felly y mae wyth o bob deg o'r gwrrywiaid a addysgir ganddynt—pan y gallant fforddio hyny yn feddwon ac anfoesol; ac wyth o bob deg o'r benywaid, dros 16 mlwydd oed, yn anniwair, a dideimlad i ddiweirdeb benywaidd." Creodd y ddwy gyfres hyn o lythyrau ddigofaint dirfawr yn mysg holl Ymneillduwyr mwyaf egwyddorol Cymru. Dangosent yn eglur fod yr "Offeiriad Cymreig" hwn yn wr o alluoedd meddyliol a llenyddol pell uwchlaw y cyffredin o'i frodyr, a gorfodent yr Ymneillduwyr oll i gredu ei fod, wrth eu hysgrifenu, yn gwlychu ei ysgrif bin mewn rhyw elfen lawer duach nag inc. Dyma fel y dywedai Ieuan Gwynedd am danynt "Dysgrifia ein hiaith fel amddiffynfa anwybodaeth, ac Ymneillduaeth oddiwrth Eglwys Loegr fel y fwyaf a gwaethaf o bob melldithion dynol. Yn ei gyfrif ef, nid oedd anifeileiddrwydd, meddwdod, anniweirdeb, bastardiaeth, a llygredigaeth o bob rhyw, ond geiriau cyfystyr ag Ymneillduaeth."

Am lawer math o gyfansoddiadau, nid yw o unrhyw bwys tuag at allu ffurfio barn gywir am eu teilyngdod, neu eu credadwyaeth, i wybod pwy a'u cyfansoddodd. Byddai caniadau Homer, Virgil, a Milton, yr un mor athrylithlawn; plays Shakspeare ac alegorïau Bunyan yn amlygu cydnabyddiaeth yr un mor ddofn â'r natur ddynol; problems Euclid yr un mor benderfynol; "Novum Organum" Arglwydd Bacon yr un mor athronyddol ac anymchweladwy, pe nas gwyddem ddim am eu hawdwyr. Ond ymddibynai credadwyaeth llythyrau beirniadol fel yr eiddo "Cambro—Sacerdos' ac "Ordovicis," i fesur mawr, ar pwy a'u hysgrifenodd. oedd yn bwysig gwybod oddiar ba safle yr edrychai eu hysgrifenydd ar y wlad, ei hiaith, ei harferion, a'i Hymneillduaeth, a ddarluniai mewn lliwiau mor echryslawn. Trwy ddygwyddiad ffodus cafodd Ieuan Gwynedd allan mai dau ffugenw ar yr un person oedd "Cambro—Sacerdos" ac "Ordovicis," ac mai yr un person hwnw oedd y Parch. John Griffiths, Ficer Aberdâr—yn awr y rhyddfrydig a'r gwladgarol "Rector Merthyr." Taflodd y darganfyddiad hwn ar unwaith fyd o oleuni ar gymeriad y llythyrau. I ysbryd teimladwy, gwladgarol, a zel Ymneillduol Ieuan Gwynedd, yr oeddynt yn hollol annyoddefol. Tra yr oedd ei anwylaf briod yn nychu yn anobeithiol yn ngafael y darfodedigaeth mewn un ystafell, yr oedd yntau, ei hun yn wael ei iechyd, yn brysur yn casglu ystadegau o bob parth o'r Dywysogaeth tuag at ateb y llythyrau hyn ac Adroddiadau dysgwyliedig y Dirprwywyr. Derbyniasai apeliadau taerion oddiwrth luaws o wŷr blaenaf Ymneillduaeth yn Nghymru a Lloegr am iddo ymgymeryd âg ateb cabldraethau " Cambro-Sacerdos" ac "Ordovicis." Yn ddioed wedi