Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dodi ei briod yn ei bedd, ymaflodd yn ei ysgrif bin, ac atebodd hwynt mewn pedwar o lythyrau at olygydd y John Bull. Yr oedd yn fwy parod i'r gwaith oherwydd fod ynddynt ymosodiadau personol arno ef ei hun. Yn y llythyrau hyn gwrthbrofodd trwy ystadegau a ffeithiau anwadadwy holl haeriadau pwysicaf y Ficer. Profodd am y mwyafrif o honynt eu bod yn gamdystiolaethau cableddus, creulawn, yn erbyn ei wlad; ac am y gweddill oeddynt yn rhy wir, eu bod gan mwyaf i'w gosod yn nghyfrif yr Eglwys ffafredig ond gresynus o esgeulus y perthynai y Ficer ei hun iddi. Cyhoeddwyd y llythyrau hyn, ynghyd a dau eraill at Arglwydd John Russell ar Adroddiadau y Dirprwywyr, yn un llyfryn, dan yr enw The Dissent and Morality of Wales." Lledaenwyd canoedd o hono yn mysg yr aelodau o ddau Dŷ y Senedd a deimlent ddyddordeb yn addysg y genedl, ac yn mysg Ymneillduwyr blaenaf y deyrnas; a mawr oedd y clod a dderbyniai ein gwron ieuanc yn y newyddiaduron a'r cylchgronau, ac mewn llythyrau personol o bob cyfeiriad, am ei zel a'i wrhydri buddugoliaethus o blaid ei wlad gabledig. Gan i Ieuan ddwyn yn mlaen yr un ystadegau a ffeithiau, gydag eraill, wedi hyn i wrthbrofi yr un cyhuddiadau yn Adroddiadau y Dirprwywyr, gohiriwn roddi crynodeb o honynt hyd y cysylltiad mwy priodol hwnw.

Daeth llu o ysgrifwyr, enwog ac anenwog, allan yn y newyddiaduron a'r cylchgronau Ymneillduol yn erbyn y cablydd Eglwysig galluog hwn. Ond o'r holl atebion a roddwyd i gyhuddiadau echryslawn "Cambro-Sacerdos" ac Ordovicis," y mwyaf cyflawn a tharawiadol, uwchlaw pob cymhariaeth, a fu y diweddaf oll gan Rector Griffiths, o Ferthyr. Mae holl fywyd "Rector Merthyr" hyd y dydd heddyw ar ei hyd fel rhyw un gwrthdystiad cyhoeddus, cyson, ysblenydd, yn erbyn anghyfiawnder holl gyhuddiadau llythyrau hyny "Ficer Aberdar." Yn awr y mae ei ysbryd rhyddfrydig, gwladgarol, yn esiampl deilwng o'i hefelychu gan holl rectoriaid a ficeriaid ei Eglwys ei hun, ac yn destyn edmygedd pob Cymro goleuedig, teyrngarol i'w wlad, trwy yr holl Dywysogaeth. Yn awr yr ydym yn gweled rhagfarnau yr Eglwyswr wedi eu llwyr alltudio o'i fynwes gan ryddfrydedd y Cristion, a'i Sais-addoliaeth gan ei wladgarwch. Y mae er's blynyddau lawer bellach wedi sicrhau parch ac edmygedd gwresocaf pob Cymro cywirgalon o fewn ei wlad trwy gysegriad ei dalentau ysblenydd a'i ddylanwad cenedlaethol i gydweithio yn galonog gyda phob symudiad er goleuo anwybodaeth a diwygio anfoesoldeb ei gydgenedl, a dyrchafu ein cymeriad cenedlaethol yn mhob gwybodaeth a rhinwedd. Am ei hen famiaith gabledig, os mynai rhyw un o'n darllenwyr y goreu o bob profion pa mor anghyfiawn yn gystal ag anwladgarol yn "Ficer Aberdâr" oedd collfarnu y Gymraeg fel atalfa ddybryd i'r Cymro ragori, myned weled y Cymro brwd, hyawdl, gwladgarol, "Rector Merthyr," yn dwyn allan ei nerthoedd ieithyddol, ac yn tywallt ei brawddegau trydanol i glustiau a chalonau torf o Gymry syml. Os nad allwn addaw "oes y byd i'r iaith Gymraeg," gallwn yn ddibetrus addaw iddi oes Rector Griffiths o Ferthyr; a hir oes a fyddo hono.