Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi darllen yr ychydig engreifftiau a roddasom o honynt, hawdd y gellir credu i'r ymchwiliad hwnw i ansawdd foesol ein gwlad fechan ddirmygedig, a chyhoeddiad y "Llyfrau Gleision" a gynwysent ddysgrifiadau y Dirprwywyr a'u cefnogwyr o honi, greu ystorm annysgrifiadwy o deimladau gwrthdarawiadol trwy yr holl Dywysogaeth. Fel na byddai i un Cymro uniaith fod heb wybod cymeriad gresynus ei wlad, yn ol y darluniadau o honi yn yr Adroddiadau swyddogol hyny, cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg o honynt, a lledaenwyd ef yn helaeth trwy bob rhan o Gymru. Profodd y rhai hyn yn danwydd ychwanegol ar ein tân Cymreig. Daeth llu mawr o Eglwyswyr allan yn eu newyddiaduron, ac yn eu harch-gablydd teilwng o Ymneillduaeth Cymru—"Yr Haul," i amddiffyn a chadarnhâu Adroddiadau y Dirprwywyr. Daeth llu llawer mwy o Ymneillduwyr, llên a lleyg, allan i'w gwrthbrofi. Profodd "Yr Amserau" yn allu o wasanaeth anmhrisiadwy i'n gwlad yn yr ymosodiad Eglwysyddol digyffelyb hwnw ar ein cymeriad cenedlaethol. Rhoddodd ei olygydd galluog a gwladgarol, y Parch. W. Rees, trwy ei allu, ei yni, a'i ddoethineb milwrol yn dysgyblu ac arwain poethfrydedd angerddol y rhengoedd Ymneillduol yn y frwydr fythgofiadwy hono, gamrau breision tua phen y pinacl o enwogrwydd cenedlaethol y saif arno heddyw yn ei wlad. Goddefer i ni yma, wrth brysuro heibio, achub y cyfle hwn i arllwys allan ychydig o arwr-addoliaeth ein calon "hero-worship," ys dywedai Carlyle—a dyweyd, i ran pwy bynag y daw y fraint bruddaidd o sefyll ar lan bedd hen olygydd "Yr Amserau"—tad ein llenyddiaeth newyddiadurol, ac edrych oddiar y safle teg hwnw yn ol ar yrfa gyhoeddus o dros haner canrif o barhad, o lafur dyfal, oll o'r radd uchaf, werthfawrocaf, yn ngwasanaeth ei Dduw a'i wlad, fel efengylydd a darlithydd, fel bardd, emynydd, a llenor, fel golygydd a beirniad, ac fel arweinydd gwladyddol, bydd y cyfanswm yn olygfa gyflawn nas gwelsid ei chyffelyb mewn arddunedd moesol oddiar lan ond ychydig iawn o feddau Cymru. Bu yn gefnogydd ffyddlawn i Ieuan Gwynedd trwy holl lafur ei fywyd. Ergydiai y wasg allan luaws o bamphledau tanllyd o bob tu. Cynelid cyfarfodydd cyhoeddus, angerddol eù poethfrydedd, yn mhob parth o'r Dywysogaeth, yn enwedig yn Siroedd Mynwy a Morganwg, i wrthdystio yn erbyn a gwrthbrofi cableddau y "Llyfrau Gleision." Yr unig siaradwyr yn y cyfarfodydd hyn fyddai gweinidogion a lleygwyr gwrthwynebol i unrhyw ymyriad gan y Llywodraeth âg addysgiad y wlad. Yr oedd cryn nifer o weinidogion blaenaf yr Ymneillduwyr yn bleidiol i ymyriad y Llywodraeth; ond cadwai y rhai hyny oll draw, gan edrych ar wlad fechan eu genedigaeth, ei hiaith, a'i Hymneillduaeth, a'i chymeriad moesol, yn cael eu hysglyfio gan ei gelynion, heb yngan gair yn eu herbyn.

Ond er i luaws o'n gweinidogion a lleygwyr Ymneillduol, mewn gwahanol ranau o Gymru, enill poblogrwydd mawr trwy eu hysgrifeniadau grymus a'u hareithiau hyawdl yn erbyn "Brad y Llyfrau Gleision," cydunai pawb o bob tu i edrych ar weinidog ieuanc Saron, Tredegar, fel WELLINGTON y byddinoedd Ymneillduol. Pe de-