Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wisasai ymesgusodi rhag cymeryd rhan mor bwysig—unrhyw ran yn wir—yn y frwydr danllyd hono dros ei wlad, gallasai ddwyn rhesymau cryfion dros hyny. Yr oedd ganddo eglwys a chynulleidfa_luosog i'w porthi a'u bugeilio. Yr oedd gwaeledd parhaus ei iechyd yn ei analluogi i gyflawni dyledswyddau ei weinidogaeth yn debyg fel y dymunasai. Pan yr oedd y frwydr hono â'r Dirprwywyr a'u rhengoedd Eglwysig, gwrth—Gymreig, yn dechreu y dechreuodd yr ystorm o drallodion teuluaidd guro arno, yr hon ni ostegodd hyd nes y chwythodd ei faban cyntafanedig a phriod ei fynwes oddiarno i'r bedd. Mor arteithiol oedd effeithiau yr ystorm hon ar ei ysbryd teimladwy a'i gorff eiddil, fel nad oedd ei fywyd dilynol yn Nhredegar ond un ymdrech barhaus, o'r bron, âg Angeu, fel y cwynai ei hun yn ei "Gathlau Blinder,' Ond er mor dymhestlog oedd ei fywyd ar y pryd, nis gallai y croeswyntoedd a'r tonau oll lwyddo i'w gadw yn ddystaw, tra y gwelai grefydd ac Ymneillduaeth ei wlad, sobrwydd ei meibion a diweirdeb ei merched, yn cael eu cablu mor greulawn ger bron yr holl deyrnas gyfunol. Edrychai ar Ymneillduaeth yma yn Nghymru fel yn gyfystyr a Christionogaeth—fel "pren y bywyd o blaniad Duw ei hun, i gyflenwi ein cenedl âg aneirif fendithion ysbrydol, moesol, a chymdeithasol tu hwnt i un genedl arall dan y nef." Teimlai felly wrth amddiffyn Ymneillduaeth Cymru ei fod yn amddiffyn Cristionogaeth ei hun. Y syniad hwn a'i cynhyrfodd yn nghanol ei brofedigaethau i ymaflyd yn ei gleddyf profedig—ei ysgrif bin, a chydag eiddigedd y gwir arwr, y gwir Gristion, a'r gwir wladgarwr, i gyflawni ag ef wrhydri, fel y gwelir yn ein pennod nesaf, a bâr i'r Cymry byth garu ei goffadwriaeth tra y carant Gymru a Chymraeg.

Rhydd y ffaith ganlynol ryw syniad am angerddolrwydd ei ymroddiad i ymladd brwydr ei wlad yn erbyn llu ei chablwyr Seisonig a Chymreig. Mae ei anwyl briod wedi marw, ac yntau yn anfon i hysbysu ei anwyl gyfaill, y Parch. W. Edwards, Aberdar, amser a threfn y claddedigaeth, ac yn dymuno arno ddyfod yno i bregethu ar yr achlysur—"Yr wyf yn teimlo yn ddwys, yn ddwys iawn, ddoe a heddyw. Mae fy nghalon bron ar ymdori. Mae llymder ei phoenau y ddwy awr olaf wedi cynhyrfu fy meddwl yn fawr, ac wedi gwneyd y dychrynfeydd annysgrifiadwy a fuaswn yn deimlo heb y rhai hyny yn fwy fyth. Chwerw yn wir yw 'chwerwder marwolaeth' i mi." Yna erfynia arno barotoi iddo ystadegau y gwahanol enwadau yn Aberdâr a Hirwaun—enw pob capel—amser a thraul ei adeiladiad—rhif yr aelodau eglwysig, a chanolrif gwrandawyr a'r Ysgol Sabbothol, &c., &c. "Rhaid i mi gael ystadegau. Rhodder i mi y rhai hyny, a rhoddaf daw ar ein holl enllibwyr, o 'Cambro-Sacerdos' i fyny i'r aelodau Seneddol." A phriod ei fynwes yn ei harch mewn un ystafell, ac yntau ei hun yn wael ei iechyd, a'i "galon ar ymdori" o dristwch, mewn ystafell arall gerllaw, hawdd y gellir rhyfeddu pa fodd y gallai feddwl dim oll am y "Llyfrau Gleision," ac am ystadegau capelau, &c., i'w gwrthbrofi, yn nyfnderau cyfyngder mor galonrwygol; ond cariad felly oedd cariad Ieuan Gwynedd at Gymru a'i chrefydd.