Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IX.

EI FYWYD A'I LAFUR YN NHREDEGAR (Parhâd).

CYNWYSIAD:—Parhad hanes "Brad y Llyfrau Gleision"—Amddiffyniad Ieuan Gwynedd i gymeriad moesol Cymru yn erbyn Adroddiadau y Dirprwywyr.

EFFEITHIODD ei lythyrau ar The Dissent and Morality of Wales," mewn atebiad i lythyrau difenwol "Cambro-Sacerdos" ac "Ordovicis," i ddyrchafu Ieuan Gwynedd ar unwaith i'r lle blaenaf yn mysg amddiffynwyr cymeriad cenedlaethol y Cymry yn erbyn pob ymosodwyr. Nid ymgymerodd â dynoethi "Brâd y Llyfrau Gleision" cyn derbyn apeliadau taerion am iddo wneyd hyny oddiwrth luaws o wŷr blaenaf Ymneillduaeth yn Nghymru a Lloegr, y rhai a'i cydnabyddent y galluocaf a feddai ein cenedl i ddwyn allan ein barn i fuddugoliaeth. Gorweddai prif ragoriaeth ei nerth i'r gwaith hwn yn ei hoffder greddfol o ffeithiau a ffigyrau i brofi pob pwnc ymarferol, a'i gydnabyddiaeth â phob ystadegau anghenrheidiol i brofi cywirdeb holl haeriadau y "Llyfrau Gleision" am addysg, moesoldeb, ac Ymneillduaeth Cymru. Yr oedd y Nefoedd, trwy holl reddfau ei feddwl a holl efrydiau ei fywyd blaenorol, fel wedi ei wisgo yn yr holl arfogaeth gymhwysaf i'r gwasanaeth pwysig oedd iddo yn awr i'w gyflawni. Ysgrifenodd erthyglau, "sketches," nodiadau, llythyrau ymosodol ac amddiffynol, gohebiaethau dirif o bob math a maint, i'r Principality, y Nonconformist, yr Universe, y Carnarvon and Denbigh Herald, y Monmouthshire Merlin, yr Amserau, y Traethodydd, y Dysgedydd, a newyddiaduron a chylchgronau eraill, Seisonig a Chymreig, ar wahanol gyhuddiadau y "Llyfrau Gleision." Ond o'i holl ysgrifeniadau fel amddiffynydd Cymru, y rhai pwysicaf, ac a greasant y dyddordeb mwyaf cyffredinol, oeddynt y rhai canlynol. Yn 1. Dau lythyr at y Prif Weinidog, Arglwydd John Russell, ar Gynllun Addysg y Llywodraeth, a phedwar llythyr at olygydd y John Bull, mewn atebiad i Cambro-Sacerdos ac Ordovicis ar Ymneillduaeth a Moesoldeb Cymru. Y chwech llythyr hyn wedi eu hadargraffu oedd cynwys ei lyfryn poblogaidd, "The Dissent and Morality of Wales," &c. 2. "Facts and Figures, and Statements, in illustration of the Dissent and Morality of Wales; an appeal to the English People." 3. "A Vindication of the Education and Moral Condition of Wales, in reply to a letter addressed to Lord John Russell, on the Reports of the Commissioners on the State of Education in Wales, by William Williams, Esq., late M.P. for Coventry," yn llyfryn. 4. "Two Letters to the Right Hon. the Marquis of Landsdowne, President of the Committee of Council on Education, in reply to a letter of J. C. Symons, Esq.," yn y Principality, i'r hwn yr oedd efe ar y pryd yn olygydd. Cynwysa y cyfansoddiadau hyn sylwedd yr oll o bwys a ysgrifenodd Ieuan Gwynedd mewn amddiffyniad i