gymeriad Cymru yn erbyn Adroddiadau y Dirprwywyr. Dangosant yn eglur ei fod yn teimlo cyfrifoldeb pwysig ei sefyllfa fel yr un yr oedd llygaid y rhengau oll o bob tu arno fel prif arwr Cymru yn y frwydr fawr hon. Y mae galluoedd naturiol ei feddwl, ei ysbryd arwrol ac annibynol, ei ymadferthoedd fel dadleuwr, ystadegydd, a llenor, a'i wladgarwch angerddol a digllawn yn trydanu y cyfan, i'w gweled oll yn eu llawn nerth yn y cyfansoddiadau hyn. Y mae eu nodweddion llenyddol hefyd, yn enwedig ei lythyrau yn erbyn Ordovicis," o radd uchel, yr iaith yn gref, yn goeth, yn naturiol, ac ar brydiau yn ymddyrchafu i gyffiniau yr arddunol. Gwelir ynddynt y llenor celfydd yn ffurfio brawddegau hapus, prydferth, miniog, ac effeithiol nodedig. A, dywedwn yma eto, rhaid edrych ar y rhagoriaethau hyn oll ynddynt, a'u gwasanaeth oll i'w wlad yn yr ystorm o gableddau maleisus a gurent yn awr arni o bob cyfeiriad, fel profion a gwobrwyon ysblenydd o gallineb efrydydd ieuanc Ysgol Marton a Choleg Aberhonddu yn rhoddi y fath bwys arbenig ar feistroli yr iaith Seisonig. Mor ogoneddus y talai iddo yn awr yn nghanol y cynauaf am bob llafur ac amser a gysegrasai yn mlynyddau blaenorol ei fywyd i "hogi ei bladur!" Ein gwaith ni yn y bennod hon fydd rhoddi i'r oes hon grynodeb o'r ffeithiau a'r ffigyrau a roddodd Ieuan Gwynedd i'r oes hono yn y cyfansoddiadau uchod, ac ychwanegu unrhyw ddyfyniadau pwysig a phwrpasol allan o luaws eraill o'i eiddo, Saesonaeg a Chymraeg.
Tuag at wneyd ein crynodeb mor gryno ac eglur ag y mae modd, ni a drefnwn amddiffyniadau Ieuan, fel y gwnaethom gyhuddiadau y Dirprwywyr, dan benau gwahanol, fel y canlyn:
1. annhegwch cyfansoddiad y ddirprwyaeth, a dygiad ei hymchwiliad yn mlaen.
2. annhegwch ac anghywirdeb adroddiadau y dirprwywyr am addysg cymru.
3. eu hannhegwch a'u hanghywirdeb am wareiddiad a moesoldeb cymru.
4. eu hannhegwch' a'u hanghywirdeb am ddylanwad iaith ac ymneillduaeth cymru ar ei moesoldeb.
5. afreidioldeb a drygedd ymyriad y llywodraeth ag addysgiad y wlad.
1. annhegwch cyfansoddiad y ddirprwyaeth, a dygiad eu hymchwiliad yn mlaen. Dywedasid o'r blaen mai boneddwyr Seisonig ac Eglwyswyr oedd tri Dirprwywyr y Llywodraeth; ac o'r deg Cymry a ddewiswyd yn gynnorthwywyr iddynt, fod ar y cyntaf dri yn Ymneillduwyr, ond i un o'r tri hyn roddi ei swydd i fyny yn mhen ychydig ddyddiau, ac un arall yn mhen ychydig wythnosau, ac i ddau ddarpar—clerigwyr o Goleg St. Dewi, Llanbedr, gael eu dewis i gymeryd eu lle, ac felly nad oedd ar y Ddirprwyaeth hon o dri ar ddeg o bersonau ond un Ymneillduwr yn gweithredu trwy yr ymchwiliad oll hyd ei derfyn. Cymeriad Cymru Ymneillduol yn cael ei ymddiried i "dri o Eglwyswyr Seisonig, nad oedd ganddynt ddim cydnabyddiaeth â'n gwlad, dim gwybodaeth o'n hiaith, dim cydymdeimlad â'n cenedl, na dim parch i'n crefydd!" Ac o'r deg