Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/115

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynorthwywyr Cymreig a ddewisasai yr Eglwyswyr Seisonig hyn, yr oedd naw yn Eglwyswyr, a saith o'r naw hyny yn egin offeiriaid o Goleg St. Dewi, a dim ond un yn Ymneillduwr, fel yr oedd wyth o bob naw o boblogaeth y wlad yr oedd ei chymeriad moesol a chrefyddol i gael ei ddedfrydu ganddynt!! "A oddefasai unrhyw un o farnwyr ei Mawrhydi i achos yr adyn duaf ei gymeriad a ddygid ger ei fron, gael ei brofi gan fàr—ddadleuwyr, a'i ddedfrydu gan reithwyr, ag yr oedd eu hegwyddorion a'u proffesiadau oll, oddieithr un rheithiwr, eisoes yn ei ddedfrydu i farw? Nid wyf yn credu. Ac eto fel hyn y dewisai y Llywodraeth i Ymneillduaeth Cymru gael ei phrofi a'i dedfrydu gan y Ddirprwyaeth Eglwysig hon!"

Profodd y Ddirprwyaeth ei hun annhegwch trwyadl ei chyfansoddiad trwy ei phleidgarwch yn nygiad ei holl ymchwiliad yn mlaen. Fel hyn y rhydd Ieuan Gwynedd y 334 tystion a holasant yn ystod eu hymchwiliad:

Offeiriaid 129
Lleygwyr Eglwysig 73
= 232
Offeiriaid Pabaidd 2
Gweinidogion Ymneillduol 34
Lleygwyr Ymneillduol 42
= 76
Amheus 24

Ymholi â chynifer agos i bum' gwaith o offeiriaid Eglwysig ag o Weinidogion Ymneillduol, er cael gwybodaeth gywir am ansawdd foesol a chrefyddol gwlad ag yr oedd ei phoblogaeth frodorol o'r bron yn genedl o Ymneillduwyr! A oedd yn ddichonadwy i'r Ymneillduwr mwyaf rhyddfrydig ei ysbryd gredu fod gan Ddirprwyaeth a fynai ffurfio ei barn am gymeriad gwlad ar gyfartaledd o dystion mor warthus o unochrog unrhyw ddymuniad o gwbl am farnu barn gyfiawn am dani? Mewn lluaws o drefydd ac ardaloedd poblog nid ymholasant â chymaint ag un o'r gweinidogion Ymneillduol, ond yn unig â'r offeiriaid Eglwysig, a rhai o'r rhai hyny, fel Ficer Aberdâr, heb fod yn byw yn yr ardal ond am ychydig wythnosau! O'r 90 tystion a holasai Mr Symons am gymeriad addysgol a moesol ei gylch ef—Siroedd Brycheiniog, Aberteifi, Maesyfed, a Mynwy—yr oedd yn agos i un rhan o dair o honynt heb ddeall bron ddim Cymraeg, a llawer yn Saeson pur, heb ddeall un gair o iaith y wlad a gollfarnent.

Ychwanegai y tri Dirprwywyr at y profion hyn o'u hannhegwch trwy dynu casgliadau yn erbyn Cymru oddiwrth y tystiolaethau, pan nad oedd ond lleiafrif bychan o honynt yn rhoddi iddynt unrhyw seiliau i dynu y fath gasgliadau. Er mor annheg felly, yn fynych, oedd tystiolaethau y tystion, yr oedd "summing up" y tri barnwyr yn llawer annhecach. Ond ni foddlonai ein tri barnwyr Seisonig hyn ar gamddefnyddio a gwyrdroi y tystiolaethau a gasglasent, ond celasant ranau neu y cwbl o dystiolaethau lluaws o'r tystion Ymneillduol a holasent, am eu bod yn anffafriol i'w hamcanion hwy! Noda Ieuan Gwynedd luaws o'n gweinidogion a'n lleygwyr Ymneillduol enwocaf y celasent neu y llurguniasent yn greulawn eu