Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uchod, yn anghywir, yr oedd dull yr ymwelwyr â'r ysgolion dyddiol o brofi gwybodaeth gyffredinol a chrefyddol yr ysgoleigion hefyd yn dra annheg. Annheg oedd gofyn cwestiynau nas gallai y plant eu hateb, annhecach na hyny oedd rhoddi cwestiynau mewn ffurf ag oedd yn awgrymu i'r plant atebion cyfeiliornus.—"Yn mha le yr oedd gardd Eden?" "Pa sawl ffenestr oedd yn y Tabernacl?" "Pa sawl drws oedd ar arch Noah?" "Noah a adeiladodd y Deml, onidê?" "Yr oedd Pedr yn un o'r prophwydi, onid oedd?" "Ai Mair Magdalen oedd mam Iesu Grist?" "Yn mha deyrnas y mae Llundain?" a chwestiynau cyfrwys, tebyg i'r rhai hyn mewn gwybodaeth gyffredinol. Symbylid y plant â cheiniogau i ateb am y cyntaf. A oedd yn syn fod y plant annrwgdybus, awyddus am y geiniog, yn ateb mor fynych yn gyfeiliornus ag y dywedai eu bradwyr yn y "Llyfrau Gleision" eu bod? Onid annheg-creulawn o annhegoedd cyhoeddi atebion felly, oedd yn rhwym o fod gan mwyaf yn anghywir, fel engreifftiau o safon resynus yr ysgolion mewn gwybodaeth. Engreifftiau o anwybodaeth yn unig a geid yn hanes holl ysgolion dyddiol Cymru, oll â'u hamcan eglur i beri i'r holl deyrnas gredu fod y Cymro yn alaethus o anwybodus yn nghynwys Llyfr Duw, er y gwyddai y Dirprwywyr nad felly yr oedd, o'u cymharu âg unrhyw genedl arall dan y goron Brydeinig. Wrth sylwi ar ddylni anarferol un eneth yn ysgol Blackwood, dywedai Mr. Symons fod eu plant hwy yn Llundain yn llawer mwy deallus na phlant yr ysgol hono. Dychymyger gwynebpryd y boneddwr pan yr hysbysodd yr ysgolfeistr ef am y ddylaf hono o'r plant oll, mai geneth ydoedd wedi byw ei holl fywyd yn Llundain hyd yr adeg y daethai i'r ardal hono ychydig wythnosau yn ol!

3. annhegwch ac anghywirdeb adroddiadau y dirprwywyr am wareiddiad a moesoldeb cymru. Anwareidd-dra Cymru. Er ein bod yn byw yn nghanol y 19eg ganrif, a thrwy y canrifoedd diweddaraf yn ymyl pob manteision tuag at gyrhaedd safle uchel o wareiddiad yn ymyl cenedl glodfawr y Saxoniaid, yr uchaf mewn gwareiddiad o holl genedloedd y ddaear, yr oedd ein cenedl fechan ddiofrydedig eto, yn 1847, heb prin ei haner wareiddio! Yr oedd yr hyn a olygai y tri boneddwyr Seisonig wrth ein gwareiddiad yn hollol eglur yn eu Hadroddiadau. Ein gwareiddio oedd ein Seisonigeiddio yn mhob dim. Y prif brofion o'n hanwaraidd-dra alaethus hwn oedd, cyflwr ein mân ffermdai a'n bythod mynyddig, a bythod ein mwnwyr a'n glowyr; eu dull o fyw y dydd yn nghanol yr annhrefn a'r budreddi truenusaf, ac o gydgysgu y nos, y ddau ryw o bob oed yn ddiwahaniaeth, yn yr un ystafelloedd, fe yn fynych yn yr un gwelyau; hefyd, budreddi moesol ein nodweddion cenedlaethol o feddwdod, cydorwedd, a bastardiaeth; ac yn olaf, ond nid y lleiaf, ein hen iaith farbaraidd, oedd fel amddiffynfa gaerog i'r holl ddrygau hyn, ac yn ein galluogi i herio pob ymgais i'n diwyllio!

Honai leuan Gwynedd ei hun yn ail i neb yn ei ofid oblegyd pob annhrefn naturiol a moesol y cyhuddid y tai hyn a'u preswylwyr o honynt; ond gwrthdystiai yn chwerw yn erbyn dull y tri Dir-