Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

prwywyr Seisonig o arddangos y tai hyn a'u preswylwyr i'r byd fel engreifftiau o'r hyn ydoed holl Gymru, oblegyd nid oeddynt yn yngan gair am unrhyw dai gwell. Yr oedd cyhoeddi dosbarth o dai ac o bobl fel pe yn cynrychioli yr holl genedl yn drwyadl annheg― yn gabldraeth creulawn arnom. Eto, am y mân ffermdai yn ein mynyddoedd, a bythod y mwnwyr a'r glowyr yn ein dyffrynoedd, yr addefid fod holl edliwiadau y Dirprwywyr am danynt yn rhy wir, ai teg oedd cyhoeddi eu trigianwyr truain fel yn unig ac yn gwbl gyfrifol am holl anifeileiddiwch cyflwr y bythynod hyn? Pwy a'u hadeiladodd? Pwy yn gyntaf a fathrodd bob rheswm a theimlad dynol, a holl ofynion dynoliaeth a gwareiddiad, dan draed yn nghynlluniad barbaraidd y bythynod hyn? Collfarnid y trueiniaid a'u preswylient yn ddiarbed am eu dibrisdod o holl ddeddfau gweddeidd-dra, wrth i'r gwrrywiaid ymolchi yn ngwydd y benywaid, a rhoddi y ddau ryw i gysgu yn yr un ystafelloedd, pan yr oedd cyfluniad y fath gutiau yn herio holl ddeddfau dynoliaeth a gweddeidd-dra, heb son dim am eu cysuron! Rhaid oedd i'r gweithwyr gymeryd y cutiau hyn fel y caent hwy, a byw ynddynt fel y gallent. Onid oedd pob cyfiawnder yn galw am ranu y baich o euogrwydd a osodid ar benau preswylwyr y bythod truenus hyny rhyngddynt hwy a'u meistriaid Seisonig, a gosod y rhan drymaf o'r baich ar benau y meddianwyr a orfodent y bobl i fyw yn rhy debyg i anifeiliaid mewn cutiau cymhwys yn unig i anifeiliaid. Dyfynai Ieuan o Adroddiadau arolygwyr y Llywodraeth ddysgrifiadau o dai yn Llundain, Edinburgh, a phrif drefydd eraill Lloegr wareiddiedig anghymharol fwy truenus na'r truenusaf a ddysgrifid yn y "Llyfrau Gleision" fel engreifftiau o anwaraidd-dra cenedlaethol y Cymry. Felly, mor belled ag y mae cyflwr cymdeithasol dosbarthiadau isaf cenedl yn ddangoseg o'i safle ar raddfa gwareiddiad, gallasai y tri Dirprwywyr Seisonig aros gartref i dynu y trawst o lygad eu cenedl eu hunain yn gyntaf, cyn anturio dyfod i dynu y brycheuyn o lygad eu cymydoges fechan ar fynyddoedd Cymru.

Meddwdod Cymru. Meiddiasai "Ordovicis" gyhoeddi i'r byd fod wyth o bob deg o Ymneillduwyr Cymru yn feddwon pan y gallent fforddio. Pe felly, buasai 205,000 o honynt yn feddwon! Bradychai haeriad mor gelwyddog ei "dad" yn y fan, fel y gwrthweithiai ei amcan ei hun. Ni buasai ond clerigwr yn ngwyrddlesni ieuenctyd, ac yn angerdd ei eiddigedd dros ei "Fam," byth yn ei draethu, nac ond penwyrdd cyffelyb byth yn ei gredu, gan ei fod mor anghredadwy ag ydoedd o anwladgarol. Bu y "Llyfrau Gleision" yn anffodus ar y cyhuddiad hwn o feddwdod. Gwrthbrofent eu hunain. Safon cywir i farnu mesur meddwdod neu anfoesoldeb cymdeithasol gwlad ydyw nodwedd a nifer ei throseddau. Yr oedd cyfartaledd troseddau yn Nghymru yn llai na haner y nifer yn Lloegr, ac yr oedd mwy na'r haner drachefn o'r troseddau yn Nghymru i'w gosod yn nghyfrif Saeson, Gwyddelod, ac estroniaid eraill. Mynai awdwyr y Llyfrau Gleision" i'r byd gredu mai Cymru oedd y wlad fwyaf anfoesol yn y Deyrnas Gyfunol, ac eto addefa Mr. Lingen ei bod yn "gymhariaethol amddifad o droseddau," a Mr. Johnson fod