Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/119

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"pump o Siroedd y Gogledd yn rhydd oddiwrth droseddau o natur ysgeler, ac nad ymddangosodd ynddynt unrhyw arwyddion o derfysg neu ddiffyg teyrngarwch o fewn cof dyn;" ac ebai Mr. Symons, y cyflwr alaethus hwn o foesau, mae y carcharau yn fynych yn weigion!" Y carcharau yn weigion mewn gwlad ag y mae safon ei moesau yn isel nodedig!! Nis gallai y fath wlad fodoli ond yn nychymyg y Dirprwywyr eu hunain. "Y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth."

Arddangosid mwnwyr a glowyr Siroedd Fflint, Morganwg, a Mynwy, fel yn hynod hyd yn nod yn Nghymru am eu meddwdod Ond, fel yn achos anwaraidd-dra eu tai, felly hefyd yn achos eu meddwdod, dangosai eu hamddiffynydd ffyddlawn o Dredegar mai nid y gweithwyr yn unig oedd i'w collfarnu am eu meddwdod. Fel engraifft, cyfeiriai at un o Gwmnïau y gweithfeydd yr oedd ganddynt ddarllawdy eang mewn cysylltiad â'u gweithfeydd i gyflenwi yr holl dafarndai perthynol iddynt hwy â'r ddiod feddwol, a dysgwylid i'w canoedd gweithwyr oll yfed eu diod yn y tai hyny o'r eiddynt hwy. "Gorfodid y tafarnwyr i brynu eu cwrw yn eu darllawdy hwy, a chodid neu gostyngid eu rhent yn ol cyfanswm y cwrw a werthent!" Arferid pob dyfais o lwgrwobrwyaeth rhwng y tafarnwyr a'r agents, i ddenu y gweithwyr i gefnogi eu diottai hwy. A oedd raid diolch i gwmnïau a goruchwylwyr o'r fath hyn fod cymaint ag un gweithiwr, un dyn na dynes, sobr o fewn eu holl gyffiniau? Onid creulawn o anheg yn awdwyr Seisonig y "Llyfrau Gleision" oedd cyhoeddi dedfryd mor ddidrugaredd ar y gweithwyr Cymreig temtiedig a gwincio yn ddystaw ar Sataneiddiwch eu llywodraethwyr ariangar i'w darostwng yn gaethion diymwared iddynt hwy ac i'r ddiod feddwol? Profai Ieuan Gwynedd, trwy ystadegau swyddol, fod rhanau helaeth o brifddinas fostfawr gwlad y Dirprwywyr eu hunain, lle hefyd yr oedd ei meddwon yn cael eu llithio yn unig gan eu chwant eu hunain, eto wedi suddo yn llawer dyfnach yn llynclynau meddwdod, trosedd, a thrueni, na'r dyfnaf o weithfeydd mŵn a glo unrhyw Sir yn Nghymru gabledig. Yr oedd hyn yr un mor hawdd ei brofi am luaws eraill o brif drefydd y deyrnas. Ond i roddi yr ergyd orphenol i bob dadl ar y pen hwn o feddwdod Cymru, mor bell o fod mor feddw a Lloegr, byth er y Diwygiad Dirwestol cofiadwy yn 1837, yn ol pob ystadegau cyrhaeddadwy i Ieuan, yr oedd dau a haner am bob un o'i lleygwyr, a chwech am bob un o'i gweinidogion, yn llwyr-ymwrthodwyr oddiwrth y diodydd oedd yn meddwi! Fel hyn, a barnu meddwdod ac anfoesoldeb Cymru wrth yr unig safon tegwrth ei hystadegau troseddol, a chymharu y rhai hyny âg eiddo Lloegr neu unrhyw ran arall o'r deyrnas hon neu o'r byd, gwelid ei bod yr uchaf ar raddfa sobrwydd a moesoldeb o holl wledydd y byd. Anniweirdeb Merched Cymru. Fel y sylwyd eisoes, o'n holl warthnodau cenedlaethol, yr un yr amlygasai y tri Dirprwywyr Seisonig fwyaf o ddyddordeb i'w arddangos i'r holl deyrnas yn y lliwiau cryfaf ac erchyllaf oedd hwn—anniweirdeb merched Cymru; ac felly hollol naturiol oedd i Ieuan Gwynedd amlygu yr un dyddordeb arbenig i arddangos y gwarthnod hwn yn ei wir liwiau