Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hunain y maent yn credu. Iddynt eu hunain yr edrychant am bob nerth ac adnoddau i weithio eu ffordd trwy y byd. Ond yr oedd Ieuan yn ymwybodol fod Duw yn y byd, a theimlai mai ei ddyledswydd oedd ymdrechu enill y byd at Dduw. Yr oedd wedi ei ddysgu yn egwyddorion crefydd a rhinwedd gan ei rieni, ac nid ofnai fyw a marw yn ngafael yr egwyddorion hyny. Yr oedd ganddo ffydd ynddo ei hun hefyd, sef yn y gallu a'r cymhwysderau a roddasai Duw iddo at ei waith; ond yr oedd ef ei hun a'i ffydd yn cael eu llyncu i fyny yn y ffydd oedd ganddo yn yr Anfeidrol.

4. Nodwedd arall yn nghymeriad Ieuan oedd gallu i ddyoddef. Medrai nid yn unig fyned trwy wrthwynebiadau, ond medrai ddyoddef cystudd. Un peth yw bod yn gystuddiol, peth gwahanol yw dyoddef cystudd yn amyneddgar a dirwgnach. "Tydi gan hyny goddef gystudd." Mae hyn yn codi oddiar allu moesol, o'r gredin iaeth nad yw ein cysur yn ymddibynu ar yr allanol. Mewn gair, hwn yw y cristion boddlongar. Mae rhywbeth yn y dyn nad yw yn ymddibynu ar amgylchiadau allanol. Pan y mae tymhestl oddiallan iddo, mae cerdd oddifewn. Mae dyoddef cystudd yn arwydd o ysbryd dewr, a'r dewrder hwnw yn codi o ffydd; "Canys efe a ymwrolodd, fel un yn gweled yr anweledig. "Mae ffydd yn edrych heibio i'r allanol, ac yn pwyso ar yr anweledig a'r tragwyddol; "Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg." Am hyny nid yw cystuddiau yn ein llethu, ac yn tori ein calonau. Cafodd Ieuan lawer o gystuddiau, ond yr oedd yn "ddyoddefar mewn cystudd, ac yn llawen mewn gobaith." Nid oedd cystudd yn difa ei holl gysur, nac yn pylu llygad ei ffydd. Yr oedd ganddo ymborth nas gwyddai y byd ddim am dano. Ni threuliai ei amser i gwyno ac ochain, ond dyoddefai yn dawel a dirwgnach. Gwelsom ef ddwy waith mewn cystudd a gwendid mawr yn Aberhonddu, a buom yn llygad-dyst o'i gystudd a'i drallodion yn Nhredegar. Yn Medi, 1846, ganwyd iddo fab, ac yn Hydref dilynol gwelodd ei gladdu ef. Diwrnod digon tywyll i Ieuan oedd hwnw y cauodd y bedd ar John bach. Nid oedd ei iechyd yntau ond gwael, a chafodd y trallod o weled ei anwyl briod yn nychu, a myned yn ysglyfaeth i'r darfodedigaeth; ac yn Ebrill, 1847, gwelodd hi yn cael ei gosod yn ei gwely pridd, i orwedd hyd foreu udganiad yr udgorn mawr. Gwelsom ef yn ei gystudd mawr yn Llundain. Pan yr ymadawsom âg ef yno, nid oedd genym ond gobaith gwan y gwelem ef byth mwy. Ond er ein syndod mawr, y peth cyntaf a glywsom am dano oedd ei fod wedi dychwelyd yn ol i Gaerdydd, ac yn fuan derbyniasom nodyn oddiwrtho yn hysbysu ei fod ychydig yn well. Yn briodol y gallasai ef ddyweyd, "Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth swn dy bistylloedd di; dy holl dònau a'th lifeiriaint a aethant drosof fi." Ond er fod ton ar ol tòn yn myned drosto, nid oedd ei enaid yn cael ei lethu. Medrai feddwl a gweithio yn ei gystudd. Dywedir fod Thomas Hood wedi cyfansoddi ei ddarnau goreu ar wely cys tudd, a phan yn y poen mwyaf. Ysgrifenodd leuan Gwynedd rai o'i brif weithiau Cymreig mewn ysbaid dwy flynedd, pan oedd ar yr