Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd, i'r byd, ac i'r eglwys, yr ydym felly i raddau helaeth trwy y 'Bibl Coch,' fy mam, a charedigrwydd tynergalon Thomas Charles o'r Bala. Nid annhebyg na bydd rhan helaeth o dragwyddoldeb y gwr da hwnw yn cael ei gymeryd i fyny mewn gwrando am ddefnyddioldeb y Biblau a ledaenodd. Y mae rhoddwr Bibl yn fynych, fel offeryn, yn rhoddwr bywyd tragwyddol."

Trwy fyned yn ddamweiniol i weini i deulu o Annibynwyr, lle yr oedd yn fwy cyfleus iddi fyned gyda'r teulu i'w haddoldŷ hwy gerllaw, yr arweiniodd Rhagluniaeth y forwyn ieuanc i fwrw ei choelbren o hyny allan gyda'r Annibynwyr, ac i'r ffaith lawer pwysicach mai Annibynwr, ac nid Methodist, oedd ei mab Evan, ac i'r holl ganlyniadau o hyny. Parodd yr adgof mai Methodist cyfrifol oedd ei daid, Dafydd Zaccheus, ac mai iddo ef a'r Methodistiaid yr oedd ei fam yn ddyledus am y cychwyniad rhagorol a gafodd yn moreu ei bywyd, i Evan Jones goleddu teimladau cynhes tuag at yr enwad hwnw trwy ei holl fywyd. Fel y gwelir yn "Fy Mam," dygwyd Catherine i ymuno âg eglwys Crist trwy yr Adfywiad grymus a gymerodd le yn ardaloedd y Bala yn 1789, pan oedd tuag 16 mlwydd oed, a hyny dan ing argyhoeddiad anarferol o lym. Yr oedd yr oruchwyliaeth feddyliol arteithiol hon, a'i dygodd i deimlo ei chyflwr colledig, anobeithiol ynddi ei hun, ac anfeidrol werth Iawn y Groes a chrefydd bersonol, yn gymhwysiad anmhrisiadwy werthfawr arni i fod wedi hyny yn fam ysbrydol yn gystal a naturiol—yn wir fam, i'w phlant. Yn 1790 ymunodd ag eglwys yr Annibynwyr yn Bala, oedd y pryd hwnw dan ofal y Parch. W. Thomas, gynt o Hanover; ac yn gweini mewn gwahanol leoedd yn Nghymru a Lloegr y bu hyd ddydd ei phriodas. Am ieuenctyd ei phriod Evan Jones nid oes dim mwy neillduol i'w ddyweyd nag iddo ei dreulio yn llafurio y ddaear gyda'i rieni gartref, ac ar ffermydd eraill yn yr ardal, ac iddo gael ei ddwyn i fyny o'i febyd yn yr Ysgol Sabbothol yn Rhydymain, ond heb fod yn aelod eglwysig.

Priododd Evan a Catherine Jones yn Nolgellau yn nechreu 1808. Yr oedd Catherine Jones ar y pryd yn gweini gyda boneddwr ger llaw Rhydymain, ac yn aelod o'r eglwys Annibynol yno, i'r hon yr oedd yr efengylaidd "Pugh o'r Brithdir" yn fugail. Gan nad oedd Evan Jones yn aelod, teimlai ei bod yn "ieuo yn anghymharus," a rhoddodd ei haelodaeth eglwysig i fyny. Ond i un fel y hi, oedd wedi ei "magu yn ngeiriau y ffydd," a "phrofi nerthoedd y byd a ddaw," yr oedd byw yn hapus nac yn hir yn alltud o dŷ ac oddi wrth bobl Dduw yn hollol anmhosibl, ac felly dychwelodd yn ol yn fuan ar ol priodi. Wedi priodi, daethant i fyw i'r dref hon, a chyn hir ymunodd Evan Jones âg eglwys yr Annibynwyr yma. Efe oedd y cyntaf i ymuno ar ol eu symudiad i'r "Hen Gapel," yr hwn a brynasai y gweinidog, Mr Pugh o'r Brithdir, iddynt yn 1809 gan y Methodistiaid Calfinaidd. Cyn hyny nid oedd gan yr Annibynwyr nac addoldŷ na gwasanaeth rheolaidd yn y dref hon; ond cynelid Ysgol Sabbothol ac oedfeuon achlysurol mewn tŷ anedd yn y rhan o'r dref a elwir Penbrynglas.