yno yn hwyr y dydd âg "Evan bach " ar ei glin, yn ei addysgu i ddarllen, ac yn adrodd iddo ystoriau bythddyddorol Llyfr Duw,
"Ei fam batriarchaidd ar drothwy y Nefoedd Yn gwisgo ei phlentyn i ryfel y Groes."
Trwy ei llafur dyfal hi daeth i allu darllen ei Fibl pan tua phuin' mlwydd oed; ac wedi dechreu ei ddanfon i'r Ysgol Sabbothol —parhaodd mor ddyfal ag o'r blaen i'w addysgu ei hun gartref. Dydd gwynfydedig fydd hwnw i Gymru ac i'r byd pan y delo pob mam i gredu a gweithredu fel y fam ragorol hon ! Byddai gan Gymru lawer mwy o ddynion fel Ieuan Gwynedd, pe byddai ganddi fwy o famau fel Catherine Jones. "Mae un fam dda," ebe George Herbert, " yn werth cant o ysgolfeistriaid." Yn ystod ymddyddan gyda Madame Campan, dywedai Napoleon Buonaparte, " Nid yw yr hen gyfundrefnau o addysgiaeth yn ymddangos yn werth dim; pa beth sydd eisiau eto tuag at i'r bobl gael eu haddysgu yn effeithiol?" "MAMAU," atebai Madame Campan. Tarawodd yr atebiad yr ymerawdwr. "Ie," meddai, "dyna gyfundrefn o addysgiaeth mewn un gair." "Mae yn ddigon gwir," dywedai Joseph Meistra, "na chynyrchodd merched erioed un prif gampwaith. Nid ysgrifenasant nac 'Iliad' na 'Jerusalem Ryddedig,' na 'Hamlet,' na 'Phædre', na 'Choll Gwynfa,' na 'Tartuffe;' ni chynllun iasant un Eglwys St. Pedr, ni chyfansoddasant un 'Messiah,' ni cherfiasant un 'Apollo Belvidere,' na phaentio un 'Y Farn Ddiweddaf;' ni ddyfeisiasant nac algebra na'r telescope na'r agerddbeiriant; ond gwnaethant beth llawer mwy a gwell na dim o'r pethau hyn, oblegyd ar eu gliniau hwy y magwyd meibion a merched cywir a rhinweddol— cynyrchion rhagoraf yr holl fyd."
"Pan tua chwech mlwydd oed," medd efe yn ei "Fywgofiant," gosodwyd fi mewn ysgol ddyddiol yn y Brithdir, lle y dysgais yn fuan ddarllen Saesonaeg. Cefais fel hyn ychydig o ysgol yn awr ac yn y man, nes y cyrhaeddais yn agos i 16 mlwydd oed. Trwy fod yr adegau hyn mor bell oddiwrth eu gilydd, yr oeddwn yn anghofio yr hyn a ddysgwn, fel mai darllen ac ysgrifenu ac ychydig o rifyddiaeth oedd yr oll a fedrwn yn 1836, yn 16 mlwydd oed."
Trwy ofal tyner ei fam yn gwrteithio a dyfrhau gardd fechan ei feddwl ymddadblygodd ei wahanol alluoedd yn foreu iawn. Y cyntaf a nodwn ydyw ei ysbryd darllen —ysbryd o werth anmhrisiadwy i ddyn ieuanc—ffynonell ddibysbydd o oleuni a nerth a hyfrydwch—greddf ail yn unig i'r " dduwiol anian " yn ei gallu i'w gadw o "lwybrau yr ysbeilydd." Y dyn ieuanc a feddienir gan yr ysbryd hwn, gwell ydyw ganddo ef swyn ei lyfr nâ'r gwpan feddwol, hudoliaethau ei lyfrgell nâ'r dafarn. Ar awr hamddenol, ä yn reddfol at ei lyfr, fel y baban at y fron. Ac heblaw bod yn amddiffynfa gref rhag drwg, y mae yn gyfrwng i ddwyn i mewn i'r meddwl oludoedd o wybodaeth fuddiol a gwleddoedd o hyfrydwch pur, y chwilir yn ofer am danynt yn rhodfeydd a phebyll annuwioldeb. "Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd,"