Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd fy medd, ac ymdrechu mwy i enill eraill i ardystio; 3ydd, i ymdrechu bod yn offeryn i achub un enaid y flwyddyn hon; 4ydd, i ymdrechu bod yn fwy defnyddiol gyda phob rhan o achos yr Arglwydd; 5ed, i ymddiried fy hun yn fwy hollol yn llaw Duw ; 6ed, os byddaf farw yma, dymunwn i Mr. Price (os gall) bregethu yn fy angladd oddiar Dat. xxii. 14. Cymhwysed Duw fi at yr amgylchiad hwn sydd yn sicr o'm cyfarfod!"

Yn nechreu Mawrth y flwyddyn hon, 1839, derbyniodd oddicartref y newydd da fod ei fam wedi dychwelyd yn ol i'r eglwys yn y Brithdir, wedi bod yn byw am flynyddoedd mewn enciliad oddiyno. Dilynodd ei dad yn Gorphenaf. Mynych yr ysgrifenai atynt y llythyrau mwyaf erfyniol am iddynt ddychwelyd i'w hen gartref eglwysig. Llwyddodd o'r diwedd gyda'i fam. Yn Mehefin, daeth y Parch. H. James (Llansantffraid yn awr) yno yn weinidog, a daeth ei Arglwydd yno gydag ef. Adfywiad grymus ar grefydd, ac ychwanegiadau lluosog at yr eglwys, fu y canlyniad, ac un O ysgubau blaenffrwyth y cynhauaf hwn oedd Evan Jones. Fel hyn, Ilwyddodd "Evan bach" i enill ei fam, a'r gweinidog newydd i enill ei dad.

Ar wahoddiad Dr. Arthur Jones aeth Evan Jones, yn niwedd mis Mai, o Benybont i Fangor, i gadw ysgol Dr. Daniel Williams yno dano ef. Dyma ddysgrifiad dyddorol y Parch, John Thomas, Liverpool (Bangor y pryd hwnw) o hono y Sabboth cyntaf ar ol ei ddyfodiad yno :—"Daeth i Fangor yn mhen ychydig wythnosau, ac yno y gwelsom ef gyntaf, ac y ffurfiasom gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch âg ef. Nid anghofiwn yr olwg gyntaf a gawsom arno yn dyfod i mewn i hen gapel Ebenezer i'r oedfa ddau o'r gloch y Sabboth cyntaf wedi ei ddyfodiad. Dacw fe, ddarllenydd, yn llafn main, tal, tenau, gwledig, mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin, yn dyfod trwy ddrws y capel. Am dano mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu, ac oblegyd ei fod ef wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta—gwasgod o stwff, ac un res o fotymau yn cau i fyny yn glòs am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf—llodrau o ffwstian rhesog, a phâr o esgidiau mawrion, cryfion, gyda dwbl wadnau, am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen, a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gellid tybied y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb son am gerdded ynddynt; ond yr oedd ef wedi cerdded deugain milldir ynddynt y dydd o'r blaen, a'i sypyn dillad ar ei ysgwydd. Aeth rhag ei flaen i'r sêt fawr, gan osod ei het galed o frethyn llawban ar y bwrdd, ac edrych i fyny tua'r pulpud, lle yr oedd y Doctor yn gwneyd amnaid a'i fys am iddo fyned i fyny ato. Edrychai y gynulleidfa mewn syndod, oblegyd yn sicr ni welsant erioed o'r blaen engraifft mor berffaith o'r gwladwr mynyddig yn esgyn i'r pulpud. Darllenai benod yn hyf, yn uchel, ac yn gyflym; a gweddïai yn gyffelyb, heb na thôn na goslef, ond gan dywallt ffrydiau diatal o ymadroddion, heb fawr o ddefosiwn, na dim tynerwch. Pregethodd oddiar y geiriau, 'Gwrando hyn, Job;