Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dy ragoriaeth di. Dilyn lais dy Grewr trwy y gallu hwnw pa lwybr y mynai i ti gerdded. Trwy hwnw, a hwnw yn unig, y rhagori, ac y cyrhaedda dy uchelgais ei nód. Dyma ddirgelwch llwyddiant Evan Jones i ddyfod yn mhen ychydig flynyddau o lafur yn "IEUAN GWYNEDD." Oni wyddom am ddynion o'r galluoedd meddyliol mwyaf cyffredin a gyflawnasant gyfanswm anghyffredin o waith tra gwerthfawr mewn gwahanol gylchoedd yn eu dydd trwy lwyr gysegru eu galluoedd i'w gwaith priodol eu hunain, ac eraill o alluoedd cawraidd yn byw a marw mewn dinodedd annheilwng o ddiffyg hyn?

Yn Gorphenaf, 1841, ymadawodd y bugail ieuanc â'r ddiadell fechan yn Marton yn nghanol "llawer o ddagrau o bob tu," a'i lygaid bellach yn edrych yn mlaen yn bryderus am dderbyniad i Athrofa Aberhonddu.

PENNOD VI.

EI HANES YN ATHROFA ABERHONDDU.

CYNWYSIAD:—Ei dderbyniad i'r Athrofa—helaethiad yr adeilad—y Parch. C. N. Davies—ei ymroddiad i'w efrydiau, yn enwedig i'r iaith Seisonig—dyledswydd efrydydd 'hogi ei bladur"—llythyrau ar "Church Extension"—Cynhwrf y "Factories Bill"—brwydr Masnach Rydd"—Cymdeithas Heddwch ei lafur llenyddol—"yr Amserau"—"y Drysorfa Gynulleidfaol".—ei Lyfrgell—ei deithiau pregethwrol—yn derbyn amryw alwadau—y "weledigaeth o angylion'—ei brofiad yn ngwyneb y galwadau—ei brofiad mewn cystudd―yr alwad o Dredegar, a charedigrwydd eglwys Saron—ei ymadawiad o'r Athrofa.

YN nechreu Medi, 1841, yn 21 mlwydd oed, derbyniwyd Evan Jones yn efrydydd i Athrofa Aberhonddu. O'r deunaw efrydydd oedd yno ar y pryd yr oedd pump, fel yntau, yn Feirionwyr, a'i gyfeillion, Mri. J. H. Hughes (Ieuan o Leyn), a T. Roberts (Llanrwst yn awr) o ranau eraill o'r Gogledd. Flynyddau yn ol bu bychander yr adeilad a phrinder lle yn yr Athrofa yn achos pryder a gofid dwys i'r Pwyllgor, am i'w hanallu, oherwydd hyn, i dderbyn i mewn ond nifer terfynedig o efrydwyr, eu gorfodi i wrthod llawer ymgeisydd, a rhai o'r rhai hyny yn ddynion ieuainc o alluoedd a chymeriad tra addawol. Rhyw flwyddyn neu fwy cyn hyn cynaliasant gynghor gyda golwg ar helaethu yr adeilad, ond o ddiffyg rhagolwg am fodd i gyfarfod â'r draul, eu penderfyniad oedd rhoddi yr amcan i fyny. Clywodd yr efrydwyr am eu penderfyniad anffyddiog. Cynaliasant hwythau eu cynghor, ac ar gynygiad Mr. E. Roberts (Cwmafon), penderfynasant ymrwymo am £250 tuag at y draul, os ymrwymai y Pwyllgor am y gweddill. Buasai gwrthod sefyll y fath her yn