Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddysgeidiaeth felly er gallu cyrhaedd unrhyw safle uchel yn nheyrnas Crist. Dyma gred ein hefrydydd ieuanc o Aberhonddu, ac felly ymroddodd yn ddyfal i bob cangen o'i efrydiau Athrofaol, ac yn arbenig, fel y nodwyd eisoes, i feistroli yr iaith Saesonaeg. Yr oedd yn ddiwyd a rheolaidd gyda phob rhan o ddyledswyddau yr Athrofa. Ni absenolai ei hun byth o'r gweddiau a gynelid yno foreu a hwyr. Cyflawnai ei ddyledswyddau crefyddol ac Athrofaol gyda'r cydwybodolrwydd manylaf, a chymerai ran flaenllaw yn mhob ysgogiad a fyddai ar droed yno. Ni wyddai beth oedd difaterwch a diogi ond trwy hanes. Mynych y treuliai oriau hamddenol wrth welyau brodyr a chwiorydd cystuddiedig, yno yn arllwys i friwiau eu hysbrydoedd hwy yr olew a'r gwin a iachaent ei ysbryd profedig ef ei hun. Ofer fu pob cais i'w demtio allan i feusydd llafur gweinidogaethol na brwydrau gwladyddol cyn myned trwy ei bedair blynedd o ddysgyblaeth barotoawl yn yr Athrofa. Eto, mor gryf oedd yr ysbryd milwrol yn ei fynwes, fel pan y clywai sain yr udgyrn, swn y magnelau, a banllefau y byddinoedd gwrthwynebol yn uwch na chyffredin, fel yr oeddynt ar brydiau yn y blynyddoedd hyn, profai y demtasiwn yn rhy gref i gymeryd ambell wibdaith i feusydd y brwydrau gwladyddol a gynhyrfent y deyrnas o ben bwygilydd. Yn fuan wedi ei ddyfodiad i'r Athrofa ymddangosodd nifer o erthyglau arweiniol a llythyrau gan Dr. Kennedy o'r Amwythig ac amryw Eglwyswyr eraill, yn y Shrewsbury Chronicle, ar "Church Extension." Cynwysent yr honiadau mwyaf annherfynol am Eglwysyddiaeth fel unig feddyginiaeth y Nef i holl anhwylderau ysbrydol y ddaear, a'r cabldraethau mwyaf anghristionogol ar Ymneillduaeth ac Ymneillduwyr. Wedi byw a llafurio am agos i ddwy flynedd yn Marton yn Sir Amwythig, teimlai ddyddordeb arbenig yn y gohebiaethau hyn. Daeth allan yn yr un Newyddiadur fel amddiffynydd egwyddorion a hawliau Ymneillduaeth, ac yr oedd ei lythyrau er dynoethi honiadau ac ystrywiau yr Eglwyswyr tuag at luosogi Eglwysydd yn y Sir hono, a hyny oddiar ei wybodaeth bersonol am y Sir, yn boethbelenau mor annyoddefol i rengoedd y gelynion, fel y barnasant yn fuan mai doethach oedd dystewi yr ymosodwr llym, peryglus hwn trwy yr unig lwybr y dysgwylient lwyddo i wneyd hyny—dystewi eu hunain. Cynwysai y llythyrau hyn ymresymiadau mor gryfion a theg, ac amlygent y fath gydnabyddiaeth helaeth âg egwyddorion a hanes y pwnc o Eglwys Sefydledig, a'r oll wedi eu gwisgo mewn ieithwedd mor gywir a choethedig, fel mai ychydig a ddychymygai ei wrthwynebwyr mai bachgen o Gymro tlawd, 21 mlwydd oed, na chawsai ond ychydig o fantais deg i efrydu a meistroli yr iaith yr ysgrifenai mor rymus ynddi, oedd eu hawdwr.

Yn nechreu 1843 dygai Syr J. Graham ei ysgrif gofiadwy ar addysg plant y Gweithfeydd (Factories' Bill) i mewn i Dŷ y Cyffredin. Yn ol yr ysgrif hon, nid oedd un plentyn rhwng 8 a 13 mlwydd oed i weithio mewn Factory dros 6½ awr bob dydd, nac heb fod wedi treulio tair awr o bum' niwrnod o'r wythnos mewn ysgol, ac fod tair ceiniog yr wythnos i'w cymeryd o gyflog