Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nis gallaswn ddysgwyl mwy o gydymdeimlad ac astudrwydd oddiwrth fam neu chwaer. Bydded i Roddwr pob daioni roddi iddynt fendithion dirif!" Ataliodd ei gystudd maith hwn iddo allu sefyll yr Arholiad Athrofaol yn Mehefin, 1845. "Ni chymerais ran mewn dim yn yr Arholiad, ond ychydig ar Etholedigaeth. Crybwyllodd Mr Davies, yr athraw clasurol yno, oni buasai am fy afiechyd, y buaswn yn sicr o enill dwy neu dair o'r gwobrwyon. Tebygol yw mai y Syriaeg, Groeg y Testament Newydd, a Hanesiaeth Gymreig, fuasai y rhai hyny. Buasai hefyd yn ymdrech led galed yn yr Hebraeg." Ar ei ymadawiad o'r Athrofa, amlygodd ei gydefrydwyr eu teimlad serchog tuag ato trwy ei anrhegu â gwerth £5 o lyfrau.

PENNOD VII.

EI FYWYD A'I LAFUR YN NHREDEGAR.

CYNWYSIAD: Ei holl fywyd hyd yma yn rhagbarotoad i'w fywyd cyhoeddus o hyn hyd ei derfyn—ei brofiad yn y rhagolwg ar ei fynediad i Dredegar—cyfarfod ei urddiad―yr 'Hen Olygydd," ei nodweddion a'i lafur—hanes personol a theuluol Evan Jones yn Nhredegar—ei ymroddiad i'w ddyledswyddau gweinidogaethol—fel pregethwr—gyda'r Ysgol Sabbothol—fel dirwestwr, a'i ddyled i Ddirwest—Cymanfa Ddirwestol y Byd—rhyddfrydedd a chatholigrwydd ei ysbryd—yr Undeb Efengylaidd—Cymdeithas Heddwch—Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, yn gwrthod y swydd o ysgrifenydd iddi—cynyrchion ei awen_tra yn Nhredegar ei lafur llenyddol—ei brophwydoliaeth am y Parch. L. Edwards, o'r Bala—ei gyfeillgarwch â'r Archesgob Whately ei erthyglau yn y Nonconformist—ei draethawd Seisonig buddugol ar Ddirwest, a'i boblogrwydd—ei lythyrau at esgobion Llandaf a Thy-Ddewi.

RHAID ystyried holl fywyd Evan Jones hyd yma fel rhagarweiniad i'w fywyd a'i lafur cyhoeddus o hyn hyd derfyn ei yrfa. "Ysgrifenydd yn cael ei ddysgyblu i Deyrnas Nefoedd" ydoedd yn holl oruchwyliaethau ei fywyd blaenorol. Yr oedd gwaith wedi ei raglunio ar ei gyfer yn yr arfaeth ddwyfol, ac yntau wedi ei "neillduo o groth ei fam" i'r gwaith hwnw. Mewn corff gwahanol i'r un egwan, cystuddiol, gordeimladwy oedd ganddo, diau y buasai holl nodweddion ei fywyd a'i lafur yn gwbl wahanol i'r hyn oeddynt. Nid oedd yr oll o'r dysgyblu fu arno ar yr aelwyd gartref, yn yr ysgolion dyddiol a Sabbothol y bu ynddynt, yn Athrofa Aberhonddu, yn Athrofa uwch Rhagluniaeth, ac yn mhrifathrofa Ysbryd y Gwirionedd ei hun, ond gwahanol foddion ei gymhwysiad i'w waith o hyn allan.

Yr ydym yn awr i'w ddilyn i faes cyntaf ei lafur—Tredegar, ac i edrych arno yno yn cyflawni gwahanol ranau ei waith rhagluniedig Yr oedd ei gynghorwr tadol o'i febyd, yr "hen Olygydd," yn wrth