Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wynebol iddo anturio i'r maes hwn, oherwydd afiachusrwydd ei sefyllfa, a thrymder y gwaith i'w gyfansoddiad eiddil ef, a'i fod wedi derbyn addewidion am fwy o gyflog am lai o lafur o leoedd eraill ag yr oedd eu sefyllfa a'u hinsawdd yn llawer iachach. Ond wedi derbyn yr alwad oddiwrth eglwys Saron, Tredegar, teimlai ef ei hun yn y fan fel pe clywai lais o'r Nef yn dywedyd wrtho, "Dyna faes dy lafur di." Nid ystyriodd ei gorff ei hun; rhoddodd bob ystyriaethau personol o'r naill du. Os nad oedd y lle mor iachus, na'r gyflog addawedig mor haelionus, yr oedd y cyfleusderau i fod yn ddefnyddiol yn llawer mwy. Ei safon ef yn wastadol i farnu gwerth pob lle a swydd, pob dawn, llafur, ac arian, oedd eu gwerth ar Exchange ysbrydol Teyrnas Nefoedd, a'r cyfleusderau a roddent i lafurio a bod yn ddefnyddiol dros Dduw. Edrychai yn mlaen ar ei fynediad i weinidogaethu yn Nhredegar gyda phryder dwys; ond nid achosid y pryder hwnw gan unrhyw ofal am ei iechyd a'i amgylchiadau personol ei hun, ond gan yr ymdeimlad o'r cyfrifoldeb ysbrydol dirfawr a ddygai arno. Nid oedd eto ond dyn ieuanc 24 mlwydd oed, egwan o gorff, wedi cerdded o'r bru hyd yma megys ar derfyn deufyd, ac yn awr ond yn dechreu adferu ei nerth o gystudd maith, bygythiol. "Daw cyfrifoldeb difrifol i ddisgyn yn y fan arnaf. Bydd canoedd o eneidiau anfarwol yn cael eu cyflwyno i fy ngofal. Mynych y bum yn siarad am fod yn gymhwys i'r weinidogaeth; ond mor lleied a deimlid y pryd hwnw o fy mhryder presenol, ac mor lleied, wedi y cwbl, yw fy nghymhwysderau! Mae y gwaith yn wir yn fawr, ac yr ydwyf yn erfyn ar Dduw fy ngwneyd yn weithiwr difefl,' i 'iawn gyfranu gair y gwirionedd,' fel y byddo i Dduw y Gwirionedd gael ei ogoneddu ynof." Ei ragflaenydd fel gweinidog eglwys Saron oedd y Parch. Hugh Jones, yr hwn a symudasai yn nechreu y flwyddyn hon i gymeryd gofal eglwys Heol Awst, Caerfyrddin.

Symudodd y gweinidog ieuanc o Aberhonddu i Dredegar yn Mehefin, 1845. Cynaliwyd cyfarfod ei urddiad y ddau ddydd olaf o Orphenaf. Yn y cyfarfod urddol boreu y dydd olaf, "gweddïodd Mr. Jones, Varteg, a phregethodd Mr. Jones, Sirhowy, ar 'Natur Eglwys;' holwyd y gofyniadau gan Mr. Ellis, Mynyddislwyn; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. Stevenson, Nantyglo; pregethodd Mr. Davies, athraw clasurol Coleg Aberhonddu, i'r gweinidog, a Mr. Jones, Caerfyrddin, i'r eglwys. Yn oedfeuon y prydnawn a'r hwyr, yn addoldŷ y Bedyddwyr, pregethodd Mri. Evans, Frome; Pierce, Liverpool; Roberts, Cwmafon; Griffiths, Abertawe; a Hughes, Dowlais." Tynodd yr enwogrwydd yr oedd y gweinidog ieuanc eisoes wedi ei enill fel bardd, llenor, a gwladgarwr, luaws mawr o wŷr llen a lleyg o bob enwad ynghyd ar yr achlysur, fel yr oedd addoldŷ eang y Bedyddwyr yn aruthrol o lawn." Yr oedd yno, er hyny, wagle pwysig nas gallai neb o'r lluaws brodyr oedd yn bresenol ei lanw—lle ei dad yn y ffydd, tywysog ei ieuenctyd, ei oracl ffyddlon a doeth yn holl helyntion ei fywyd, "yr hen Olygydd," oedd wedi ei luddias i fod yn bresenol gan amgylchiadau oedd y anorfod. I deimlad mabaidd, serchog Evan Jones ei hun yr