Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfod pwysig hwn felly heb ei goron. Ond rhoddodd ei "hen weinidog" brawf o'i serch tadol tuag at y bachgen talentog, addawolo'r Brithdir, trwy anfon anerchiad serchoglawn, dyddorol nodedig, i'w ddarllen yn gyhoeddus yn nghyfarfod ei urddiad.

Wedi cyfeirio at deimlad siomedig Evan Jones oherwydd absenoldeb ei dad ysbrydol, y Parch. C. Jones, o gyfarfod ei urddiad i faes cyntaf ei lafur, caniataer i ni yn y fan hon droi am ychydig i dalu teyrnged haeddianol iawn o warogaeth i un o gymeriadau rhagoraf Cymru—un yr addefai Evan Jones ei hun yn ddyfnach dyledwr iddo nag i neb arall ar y ddaear hon, oddieithr un—ei fam.

"Ac os yw 'r teulu glân
Yn sylwi weithiau ar helyntion mân
Y ddaear hon, o blith golygfeydd cain
Y Ganaan nefol, ac o beraidd sain
Telynau aur y Nef-os yw y llu
Dedwyddol weithiau 'n taflu golwg tu
A'u hen gartrefle, "—

ac os yw hoff gyfaill ein hieuenctyd yn mhlith y "llu dedwyddol" yno yn ymwybodol o'n bod ni yma yn ein hystafell yn ei "hen gartrefle" yn parotoi hanes ei yrfa helyntfawr i'w fynegu i oesoedd a ddêl y wlad a'i magodd, ac yma gyda ni "weithiau'n taflu golwg' dros frawddegau ein hysgrif, gwyddom na bydd ynddi unrhyw frawddegau a weinyddant ddyfnach boddhad i'w ysbryd pur na'r rhai hyny a gyhoeddant ei rwymau dirif ef i'r "Hen Weinidog;" ac yr un mor sicr ydym y rhydd foddhad yr un mor ddwfn i ysbryd yr "Hen Weinidog" ei hun, sydd erbyn hyn gydag ef yn mhlith y "teulu glân," i Gymru oll gael gwybod mor hynod y coronodd gras Duw ei holl drafferth tadol gyda'r bachgen uchelfrydig, diorphwys, o'r Tycroes. Mr. Jones, fel y gwelsom, oedd gweinidog y Brithdir pan anwyd Evan Jones. Efe a'i bedyddiodd ef yn faban gwael y diwrnod y ganwyd ef, fel na ddyoddefai y gwarthnod a rydd yr Eglwys Sefydledig ar y marw anfedyddiedigei gladdu yn y nos. Pregeth ganddo ef fu y prif foddion yn llaw Duw i ddeffro ei feddwl i ymdeimlad difrifol o'i gyflwr colledig fel pechadur. Efe a'i derbyniodd yn ymgeisydd am aelodaeth yn eglwys Crist, ac wedi hyny yn aelod cyflawn o honi. Pan na welai ei gymydogion ynddo ddim amgen na'r hogyn hunanol, penchwiban, anobeithiol ddiles, canfyddai ei lygaid mwy treiddgar ef ynddo er yn foreu allu, yni, a gwanc anniwall am lyfrau a gwybodaeth a allent, trwy eu cefnogi a'u hyfforddi, ei ddyrchafu ryw ddydd, os cai fyw, i ryw safle o ddefnyddioldeb ac enwogrwydd yn ei gylch priodol ei hunan. Pe gwrandawsai yr eglwys a'i magodd ar ei gweinidog llygadgraff, gallasai fod yn awr yn ymffrostio yn Ieuan Gwynedd fel trydydd em yn ei choron at ei dau ddysglaer blaenorol—"yr efengylaidd Pugh o'r Brithdir" a'r Parch. Edward Roberts, Cwmafon, yn lle ei adael i eglwys estronol Sardis yn Sir Drefaldwyn. Buasai ysfa ohebyddol yr hogynfardd diorphwys o'r Tycroes yn bla blin ar amynedd llai anhysbyddadwy ei ystôr o hono na "Hen Olygydd" y Dysgedydd. Gwir y gorfodai ef yn barhaus i