Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brofi "beth yw siomiant" gyda golwg ar dynged ei ohebiaethau mwyaf ehedegog, a chynefin iawn fyddai ei enau â'i ffrwyn a'i gefn 'i ffrewyll y blynyddau boreuol hyn. Ond byth ni thyngedai ei anffodusion ef i danio ei bibell—tynged fynych eiddo eraill. Dy. chwelai hwynt iddo, a'i feirniadaeth addysgiadol arnynt. Bu ei gynghor doeth i'w hyfforddi, a'i logell a'i ddylanwad i'w gynorthwyo, mewn aml gyfwng tywyll yn nghychwyniad ei yrfa gyhoeddus, a theimlai ddyddordeb tadol ynddo hyd ei therfyn. Cafodd y bachgen diystyredig a noddai fyw i wirio ei holl obeithion a'i ragfynegiadau ef am dano, ac i lwyr gywilyddio ei holl ddiystyrwyr. Yn merw ei boethfrydedd cynhenid yn ei fynych frwydrau cyhoeddus, bu pwyll yr un mor gynhenid yr Hen Weinidog o werth mawr iddo, i'w gadw C ar ganol llwybr barn." Derbyniodd ad—daliad llawn am y cyfan yn serch ac edmygedd mabaidd Evan Jones tuag ato. Yr oedd iddo ei orsedd ddisigl, hollol wrtho ei hun, yn ei fynwes ef, a chreadigaeth deg ei gymeriad patriarchaidd, cariadlawn ef ei hun oedd hono. Gwelir aml i Gristion cywir a gweinidog ffyddlawn ag y mae ein deall a'n cydwybod yn gorfod eu parchu, ond nas gall ein serch eu caru, tra y mae eraill ag y mae ein serch yn gallu eu caru, ond ein deall yn analluog i barchu eu cymeriad. Yr oedd yn nghymeriad cyflawn ein hen batriarch o Gefnymaelan gydgyfarfyddiad hapus o elfenau y parch a'r cariad cywiraf. Yr oedd yn "ddyn" cyflawndynoliaeth gyflawn yn sylfaen i'r goruwchadeiladau o'r Cristion, a'r gweinidog, a'r gwladwr. Nid oedd ei dalcen teg, ei bâr o lygaid syml, gloewon, tawel fel y ser sefydlog; ei wynebpryd deallgar, siriol, cariadus; a'i ystum dirodres, anymhongar, ond arwyddion gweledig oddiallan o'i nodweddion meddyliol oddimewn. Gallasai unrhyw estron a sylwai arno yn cerdded yr heol yma yn Nolgellau gasglu yn fuan y rhaid ei fod yn wr oedd yn troi mewn rhyw gylch ac awyrgylch moesol uwchlaw ei gymydogion—yn batriarch yn ei wlad. Os ymddyddanai âg ef, gwelai fod ei "aelod bychan" yn ymsymud "braidd" yn arafaidd, ond ei fod yn un breintiedig tu hwnt i'r cyffredin—yn gludydd brawddegau llwythog o nwyddau gwerthfawrocaf "byd y meddwl"—o synwyr cryf, deall clir, doethineb a phwyll dihysbydd, a'r sylwadau ymarferol mwyaf goleuedig ac annibynol ar fyd ac eglwys. Fel Cristion, nis gallwn gredu i'r Fall erioed gynyg y fath bicell i feddwl yr adyn duaf ei galon a'i hadwaenai ag mai rhagrith oedd crefydd yr hen Jones o Gefnymaelan," neu mai fel "bywioliaeth" fydol yr ymgymerasai efe â gwaith mawr y weinidogaeth.

Fel pregethwr, ychydig iawn o'r melted butter a'r capers, y mwstard a'r halen, &c., a geid yn y dysgleidiau pregethwrol a arlwyai yr "Hen Weinidog" i'w gynulleidfa. Nid oedd ganddo ei hun y chwaeth lleiaf at "hash" o bregeth—rhyw dameidyn bychan o wirionedd yn cael ei gogyddio yn fedrus a'i "yru yn mhell" â chyflawnder o gravy tafodogrwydd a spices ffraethineb; a'r hash nas carai ei hun ni chynygiai i neb arall. Arlwyai ef bob amser ddysgleidiau o gigfwyd sylweddol, maethlawn, ie, a blasus hefyd i bob ystumog iach a chwaeth dilwgr. Cyfundrefn annhrugarog i gogyddion yr "hash,"