Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cai pob ymgais i lesoli Cymru ei gefnogaeth galonog. Llafuriai yn ddyfal i wreiddio ei ddarllenwyr yn athrawiaethau dyfnaf y Datguddiad dwyfol, ac yn egwyddorion Rhyddfrydiaeth grefyddol a gwladol. Dadleuai yn rymus o blaid Cobden a Bright a bara rhydd oddiwrth dreth, Miall a chrefydd rydd oddiwrth y Llywodraeth Wladol, a Henry Richard a byd rhydd oddiwrth ryfeloedd. Daeth allan â'i holl allu i gefnogi ac iawn—gyfeirio y Diwygiad mawr Dirwestol o'i gychwyniad cyntaf yn 1836. Safai i fyny yn eiddigeddus dros ryddid barn a llafar. Fel llawrdyrnu agored, i ddyrnu a gwyntyllio pob cwestiwn crefyddol a gwladol o bwys, croesawai bob dadleuon felly o fewn terfynau boneddigeiddrwydd a buddioldeb. Yn ystod y 31 mlynedd y bu dan olygiaeth Mr. Jones, cyfarfyddodd a chroeswyntoedd geirwon, ac unwaith curodd yr Euroclydon cynddeiriog ei hun arno, nes ei fygwth â llongddrylliad; ond dygodd cymeriad uchel, pwyll, a doethineb yr hen gadben profedig ef yn ddiogel trwy yr ystormydd oll.

Un o'r nodweddion prydferthaf yn nghymeriad yr Hen Weinidog oedd y dyddordeb tadol a amlygai trwy ei fywyd yn efrydwyr a phregethwyr ieuainc ei Gyfundeb. Nid oedd neb sicrach o groesaw calon ar aelwyd glyd Cefnymaelan. Nid ydym yn credu y teimlai ei fynwes gariadlawn foddhad purach, dyfnach, mewn dim nag wrth groesawu a chynghori "meibion y prophwydi." Ychydig o weinidogion Cymru a anrhydeddwyd â'r fraint o gychwyn y fath nifer o honynt ar eu gyrfa brophwydol ag ef. Amlygai ddyddordeb tad yn eu helyntion a'u llwyddiant yn eu llafur, ond nid mwy yn un o honynt nag yn Evan Jones. Cymerodd ran bwysig yn sylfaeniad yr Athrofa Ogleddol yn Llanuwchllyn, a boddlonodd ar gydnabyddiaeth fechan iawn am ei lafur golygyddol gyda'r DYSGEDYDD, fel y gellid cysegru yr elw oddiwrtho oll tuag at gynnaliaeth yr Athrofa, ac elw hwn y DYSGEDYDD fu prif, bron unig, gynaliaeth y sefydliad am flynyddau lawer. Do—i brysuro yn ol o dalu ein teyrnged syml o barch i hen gyfaill y coleddem o'n mebyd y parch dyfnaf tuag ato—gwasanaethodd yr Hen Olygydd ei Dduw a'i genedl gyda ffyddlondeb tawel, dyfal, llwyddianus nodedig, yn holl gylchoedd ei lafur maith. Bydd ei goffadwriaeth yn fendigedig genym fel cenedl am ei 47 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus ffyddlawn fel gweinidog a gwladwr, ac nid llai felly am ei 31 mlynedd o wasanaeth pwysig iawn allan o'n golwg tu ol i'r llen olygyddol. Nid heb achos, fel hyn, y teimlai Evan Jones ymffrost cyfiawn yn ei dad ysbrydol. Credu yr ydym fod y 5ed o Ragfyr, 1867, yn "ddiwrnod mawr yn mywyd Evan Jones ac ugeiniau eraill o'i blant ysbrydol o'r ardaloedd hyn a'i rhagflaenasent i'r Jerusalem nefol—diwrnod croesawiad eu "Hen Weinidog" adref yno atynt. Cawsant, yn ddiau, danwydd newydd i'w cariad, a thestyn newydd i'w cân, y diwrnod hwnw.

Am hanes teuluol Evan Jones yn Nhredegar, rhoddwn y braslun byr canlynol o hono yn ei eiriau ef ei hun:—"Priodais ar y 14eg o Dachwedd, 1845, â Catherine, trydedd ferch Mr. John Sankey, o Rorrington Hall, gerllaw Marton, Swydd yr Amwythig. Merch