Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef y ffug a sicrheir trwy aberthu purdeb; nid boneddigeiddrwydd Cristionogol yr ystyriai ef "dderbyn wyneb," ymddwyn yn "foneddigaidd" tuag at "Mrs. Jones" a'i "modrwy aur," a mathru "Catrin Rondol" dan draed. A'r crefyddwr "hawdd ei drin" o ddiffyg unrhyw egwyddor grefyddol, ysgymunddyn, nid Cristion, y cyfrifai efe hwnw, a'i dringarwch yn bechod.

Nid oedd gweinidog ieuanc Saron yn bregethwr "mawr" neu "boblogaidd." Yr oedd yn amddifad o amryw o brif briodoleddau meddyliol a chorfforol y "pregethwr mawr." Heblaw hyn, parai pob ymosodiad adnewyddol o afiechyd iddo deimlo yn fwyfwy argyhoeddedig mai ei ysgrif bin, ac nid ei dafod, oedd prif offeryn bwriadedig ei ddefnyddioldeb ef. Teimlai nad oedd y Duw a'i creodd wedi ei gynysgaeddu â'r galluoedd i wneyd unrhyw orchestwaith drosto o'r pulpud, a chan ymdeimlo felly ni wnaeth areithyddiaeth y pulpud erioed yn nôd i'w uchelgais, nac yn destyn arbenig ei efrydiaeth. "Ac eto," fel y dywed ei gyfaill, y Parch. W. Williams, yn ei draethawd, "ystyrid ef yn bregethwr doniol yn gystal a galluog gan ddosbarth mawr o'r gwrandawyr goreu. Yr oedd yn draethwr llithrig, a chanddo ddigon o iaith, a hono yn nerthol a thlos a barddonol; eto gosodai allan wirioneddau yr efengyl yn syml ac eglur a hawdd i'w deall. Nid ei amcan ef oedd casglu geiriau chwyddedig; mynai ddeall ei bwnc, ac yr oedd ganddo yr iaith oreu wrth ei law i'w egluro." Weithiau traddodai gyfres o bregethau ar bynciau athrawiaethol, ond baich cyffredin ei genadwri fyddai pynciau ymarferol a llygredigaethau yr oes. Ceir un engraifft o'i alluoedd pregethwrol yn ei Weithiau,—ei bregeth ymadawol i'w hoff ddiadell yn Saron, ac ymadawol i bob llafur a defnyddioldeb byth mwy trwy y pulpud.

Fel gweinidog doeth amlygai ddyddordeb arbenig yn yr Ysgol Sabbothol, fel un o sefydliadau mwyaf hanfodol teyrnas Crist. Nid esgeulusai unrhyw gyfle i fod yn bresenol ynddi. Cyn hir wedi ei sefydliad yn Nhredegar dewiswyd ef yn ysgrifenydd cyfarfodydd ysgolion Dosbarth uchaf Mynwy, a pharhaodd ei wasanaeth gwerthfawr iddynt, hyd y caniatâi ei iechyd, tra y bu byw yno. Cymerai ran flaenllaw yn holl weithrediadau Cyfarfodydd Chwarterol Undeb Mynwy, ac er ei fod yr ieuangaf o weinidogion yr Undeb, enillodd ei dalentau, ei enwogrwydd llenyddol, a gweithgarwch diorphwys ei ysbryd, iddo yn fuan safle uchel yn mysg ei weinidogion mwyaf defnyddiol a dylanwadol.

Fel y gellid yn naturiol dybied am dref boblog fel Tredegar, yn nghanol gweithydd mawrion haiarn a glo, a'u miloedd mwnwyr a glowyr o bob math o gymeriadau, yr oedd prif raglaw Teyrnas y Tywyllwch—Meddwdod yn llywodraethu ynddi y pryd hwnw, sut bynag y mae yn awr, gyda rhwysg arswydlawn. Nid oedd nifer y tafarndai yno ond bychan mewn cyferbyniad i'r boblogaeth, ac yr oedd caredigion moesoldeb a chymeriad y dref i ddiolch i ddyngarwch Arglwydd Tredegar, perchenog y tir y safai arno, am y cyfyngiad hwn ar rwysg dinystriol Meddwdod yn y lle. Ond yr oedd yr ychydig dafarndai hyny yn ddigon eang i gyfarfod â holl ofynion