Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dynoliaeth a diafoliaeth yr holl ardal boblog. Nid oedd düwch croen canoedd o'r mwnwyr a'r glowyr a gyrchent i'r dref yn yr hwyr ond arwydd gweledig oddiallan o dduwch eu heneidiau o'u mewn. Rhodd werthfawrocaf Duw, yn nesaf at ei Ysbryd Dwyfol ei hun, i drefydd fel Tredegar—i bob tref y byddo Meddwdod yn rhwysgfawr ynddi—ydyw gwir was ordeiniedig iddo ei hun, y byddo ei alluoedd meddyliol fel dyn, a'i gymeriad moesol fel efengylwr a threfwr, yn ei wneyd yn "allu" drosto yn mysg y boblogaeth, ac un a fyddo yn drwyadl argyhoeddedig mai yr Efengyl—yr unig feddyginiaeth effeithiol—i feddwdod y byd ydyw llwyrymatal oddiwrth y diodydd sydd yn meddwi. Gwna yr argyhoeddiad hwnw ef yn ddirwestwr ei hun, fel y gallo yn gyson symbylu holl bleidwyr Sobrwydd i'r gâd, fel Julius Cesar ei fyddinoedd, â'r gair gwefr eiddiol, "Dilynwch fi!" Rhodd felly ydoedd gweinidog ieuanc Saron i Dredegar. Yr oedd argyhoeddiadau ei farn a'i gydwybod am lwyrymataliad fel yr unig feddyginiaeth sicr i feddwdod a'i aneirif ddrygau, yn ddyfnion a chryfion nodedig. Os gwir yw fod rhinwedd meddygol yn y diodydd meddwol er symbylu a chyfnerthu y nerthoedd bywydol, ac mai ei lesâd personol ei hun ydyw yr ystyriaeth gyntaf i ddyn wrth benderfynu llwybr ei ddyledswydd—dwy erthygl sylfaenol credo pob Cymedrolwr—nid oedd yr un llafurwr o unrhyw fath ar lawr Cymru ag yr oedd "arfer ychydig win, er mwyn ei gylla a'i fynych wendid," yn fwy angenrheidiol a chyfreithlawn iddo nag ef. Buasai hefyd ei groesaw a'i ddylanwad mewn rhai cylchoedd yn llawer mwy pe na buasai yn ddirwestwr mor anhyblyg, ac yn elyn mor anghymodlawn i arferion diotgar y wlad. Mewn llythyr at gyfaill cawn ddau reswm tarawiadol dros ei ymddygiad: "Gwyddoch, fel fy hun, am lawer o frodyr parchus, yn weinidogion a diaconiaid, perthynol i'r gwahanol enwadau, sydd yn gwneyd arferiad cyson o yfed rhyw gymaint o Bitter Ale, Porter, &c. Y maent yn eu hyfed yn hollol gymedrol, ac yn hollol gydwybodol, am eu bod yn credu fod arnynt angen am y symbyliad iachusol a briodolir i'r diodydd hyny. Ond a wyddoch chwi am gymaint ag un o'r brodyr hyn oll sydd byth yn cymeryd unrhyw ran gyhoeddus, benderfynol, yn y frwydr fawr yn erbyn archelyn ein cenedl—Meddwdod? Paham y rhaid i ymarferiad cydwybodol, cyfreithlawn, â'r diodydd hyn gau genau neb? Sut y cyfrifwch chwi am y ffaith hynod hon? Na, tra y byddo anadl a thafod yn fy ngenau, mynaf hwynt yn berffaith rydd i lefain yn groch yn mhob man y caffwyf gyfle yn erbyn meddwdod Cymru a phob dim sydd yn achlysur iddo. Gwas ydwyf fi; yr wyf yn gwbl sicr pe buasai fy Arglwydd yn fy lle i yma yn Nhredegar y buasai nid yn unig, fel myfi, yn ddirwestwr trwyadl, ond yn annhraethol lymach yn erbyn pob ymarferiad â'r diodydd melldigedig hyn nag y meiddiaf fi fod. 'Digon i'r gwas fod fel ei Arglwydd."

Am y "ffaith hynod" gyntaf yn y dyfyniad uchod, y mae yn awr yn 1875, fel yr ydoedd yn 1845, yn ffaith ddiymwad. Yr ydym eto yn gweled fod yr ymarferiad mwyaf cymedrol a chydwybodol o'r diodydd meddwol er cryfhau iechyd y corff yn cynyrchu rhyw