Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wendid anesboniadwy yn y meddwl i ddyfod allan yn gyhoeddus a phenderfynol i'r frwydr fawr yn erbyn Meddwdod. Paham hyn? Am yr ail sylw—dyledswydd pob gwas i Grist i weithredu fel y creda y gweithredasai ei Arglwydd yn yr un amgylchiadau—mae hon hefyd yn egwyddor yr un mor ddiymwad, onide nid gwas ydyw y gwas. Yr unig ddadl a all fod ydyw, a fuasai yr Arglwydd Crist yn "ddirwestwr trwyadl" pe yn byw yn Nhredegar y pryd hwnw? Hwn, yn ddiau, ydyw y cwestiwn mawr ollgynwysol i bob gwas i Grist ei benderfynu drosto ei hun. Wedi dyfod i benderfyniad difrifol, gonest ar hwn, bydd y llwybr i'w gerdded gyda'r achos hwn yn berffaith oleu o'i flaen, a gall edrych yn mlaen yn hyderus am gymeradwyaeth ei Arglwydd ar derfyn ei yrfa. Nid ydoedd ein Harglwydd yn ddirwestwr pan yma ar y ddaear. Felly y dywed Ef ei hun. Yn Luc vii. 33, 34, gwrthgyferbyna ei hun â'r dirwestwr Nazareaidd, Ioan Fedyddiwr ei fod Ef, yn gwbl wahanol i Ioan, "yn bwyta bara ac yn yfed gwin," fel y cyffredin o'i gydgenedl. Ië, ond, ateba gwrthddadleuydd, "gwin anfeddwol ydoedd." Os felly, yr oedd, fel Ioan, yn ddirwestwr, ac yna y mae ei wrthgyferbyniad âg Ioan yn syrthio i'r llawr, a'i eiriau yn gwbl ddiystyr. Hefyd, os gwin anfeddwol a yfai, pa synwyr oedd edliw ei fod yn "yfwr gwin" anfeddwol fel gwarthnod arno, a'i restru gyda'i bechodau eraill o fod yn "ddyn glwth" ac yn "gyfaill publicanod a phechaduriaid?" Dim oll. Ymddengys ei eiriau hyn Ef ei hun ac eraill i ni yn brofion diamheuol fod ein Harglwydd, pan yma ar y ddaear, yn arfer yfed gwin cyffredin Palestina, ac fod hwnw yn win meddwol. Ond a ydyw y ffaith ei fod yn gweithredu felly yn Capernaum ac yn Cana a threfydd eraill Palestina, yn nyddiau ei gnawd, yn brawf y gweithredasai yr un modd pe yn Nhredegar neu yn Nolgellau yn Nghymru yn nyddiau Evan Jones? Nac ydyw, yn y mesur lleiaf. Yn un peth, yr oedd "gwin" Palestina yn dra gwahanol i ddiodydd meddwol ein gwlad ni. Nid oedd y gwin cyffredin yno ond tebyg i claret gwan, a'i yfed mewn cymedroldeb yn gwbl ddiberygl, tra y gellid tybied oddiwrth gyfansoddiad "diodydd cedyrn" ein gwlad ni eu bod yn cael eu darparu i'r unig amcan o syfrdanu a meddwi. Mae y gwahaniaeth mawr hwn rhwng cyfansoddiad ac effeithiau diodydd y ddwy wlad yn peri fod gwahaniaeth yr un mor fawr yn nyledswydd dyn gyda golwg ar eu harferiad. Hefyd, ffaith bynod ydyw, o'r aneirif wahanol gymeriadau a gyfarfyddodd ein Harglwydd o'r "penaeth" yn nirgelfa yr ystafell "liw nos i fyny i'r "myrddiwn o bobl" ar fynyddoedd Galilea, nad ydym yn cael iddo erioed gyfarfod âg un dyn meddw. Yn mysg yr holl bechodau y cyhudda ei gydgenedl o honynt, nid yw yn eu cyhuddo unwaith o'r pechod o feddwdod. Mae y ffaith ei fod yn ymuno mor rhydd â hwynt yn eu swperau" a'u "gwleddoedd" yn brawf digonol nad ofnai i'w lygaid sanctaidd byth gael eu tramgwyddo, na'i gymeriad dwyfol byth ei wir ddarostwng ynddynt gan feddwdod neb o'i gydwleddwyr. Felly yn ei wlad ei hun y pryd hwnw nid oedd dim oll yn galw am iddo ymgadw allan o'r cylchoedd cymdeithasol hyn, a thrwy hyny golli cyfleusderau tra gwerthfawr i hau had da ei