Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

esiampl a'i ddysgeidiaeth. Ond meddwl am "YR IESU" mewn "ciniaw" yn Nhredegar!—" YR IESU" yn "eistedd i fwyta" wrth fwrdd y byddai "ysbrydion aflan" Cwrw a Phorter, Bitter Ale a Brandy, Port Wine a Gin Cymru arno i herio ofnadwyaeth ei sancteiddrwydd! "YR IESU" yn Nhredegar nac unrhyw dref arall yn Nghymru yn halogi ei enau sanctaidd â dyferyn o'r diodydd hyn sydd yn brif adnoddau llwyddiant Teyrnas y Tywyllwch ar y ddaear, ac yn offerynau mwy effeithiol yn llaw ei elyn Diafol er gwarthruddo ei gymeriad a llesteirio llwyddiant ei deyrnas Ef, dinystrio pob rhinwedd a dedwyddwch, a damnio eneidiau dynol, na phob offerynau dieflig eraill gyda'u gilydd! Ië, meddwl am "Y CYFIAWN HWNW" yn Nhredegar yn "cymeryd ei lasiad" gyda'r cymedrolwr, tra y gwelai ei lygaid dwyfol effeithiau arswydlawn y diodydd cedyrn yn nhafarndai ac ar aelwydydd y dref a'r amgylchoedd, ïe, a thu draw i'r gagendor, yn myd mawr yr ysbrydoedd ei hun! Onid yw y fath feddwl yn gabledd? Ydyw, y mae pob ystyriaeth am gymeriad ac amcan mawr bywyd ein Gwaredwr yn ein cydgau i gredu mai "dirwestwr trwyadl" a gelyn anghymodlawn i bob ymarferiad o ddiodydd meddwol, dinystriol ein gwlad ni, a fuasai Efe pe yn byw yma yn Nghymru. Felly y credai Evan Jones, ac felly y gweithredai, fel gwas da a ffyddlawn i'w Arglwydd. Er ei "fynych wendid," ni lwyddodd cynghor meddygon na chynghor apostolaidd Paul i weinidog ieuanc egwan fel yntau, na dim ond gorchymyn ymadawol ei Waredwr ei hun, i gael ganddo "arfer ychydig win." Clywyd adsain cyfarthiad llawer ci yn ei erbyn dros holl Gymru ar lawer achos arall; ond erioed ni chlywyd cymaint a chwyrniad un corgi yn ei erbyn fel dirwestwr.' Edrychid ato fel un o brif wroniaid Dirwest yn y Sir, a mynych y gelwid arno i ddadleu drosti mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Parai y gwledda a'r diota mewn. cysylltiad â chyfarfodydd crefyddol fawr ofid calon iddo. Teimlai trwy y blynyddau hyn nad heb achos yr oedd yn bleidiwr mor aiddgar i Ddirwest. Fel y gwelsom eisoes, y hi, fel angyles deg o'r Nef, a'i gwaredasai rhag syrthio yn ysglyfaeth i swyn y diodydd meddwol; y hi a'i dyrchafodd i'w hesgynloriau, ac a ddygodd ei alluoedd meddyliol ac areithyddol, a'i ysbryd crefyddol a gweithgar, gyntaf i'r golwg; y hi, trwy hyny, a'i dyrchafodd i'r pulpud; y hi a'i dysgodd i iawnddefnyddio ei ddawn awenyddol er gogoniant i'w Rhoddwr; ei hysbrydoliaeth hi hefyd a ddygodd ei alluoedd llenyddol gyntaf allan i olwg ei wlad, trwy ei symbylu i ymgeisio ar destyn dirwestol, ac i enill ei lawryf cyntaf ar faes cystadleuaeth lenyddol, yn llanc 22 mlwydd oed. Pa beth bynag a fu wedi hyny i'w wlad fel pregethwr, fel llenor, ac fel gwladgarwr, Dirwest a'i cyfododd ac a'i cychwynodd allan.

Yn Awst, 1846, cynaliwyd Cymanfa Ddirwestol y Byd yn Llundain. Anfonai Cymdeithasau Dirwestol pob parth o'r byd wyr o fri ar y maes dirwestol i'w cynrychioli ynddi, a choronwyd hi gan bresennoldeb tad daearol y Diwygiad mawr hwn, Dr. Lyman Beecher, o'r America. Y gwr yr ewyllysiodd Cymdeithas Ddirwestol Gwent a Morganwg roddi iddo yr anrhydedd hwn o'i