Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/95

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chynrychioli yn y Gymanfa fawr hono oedd gweinidog ieuano eglwys Saron, Tredegar. Yn y Traethodydd am Ionawr, 1847, ceir erthygl ddyddorol ar yr hyn a welodd, a glywodd, ac a deimlodd yn y Gymanfa gofiadwy hono, ei ddarluniadau o'r enwogion a welodd yno, a'i farn am danynt. Cafodd yno yr anrhydedd o gyfeillachu â Dr. Beecher, Elihu Burritt, ac eraill o brif arwyr dirwestol y byd. Rhoddodd y Gymanfa hono symbyliad grymus i'r symudiad dirwestol trwy y byd. Fel cynrychiolwyr eraill, dychwelodd cenadwr ieuanc Undeb Dirwestol Gwent a Morganwg adref â'r tân dirwestol yn llosgi yn ei fynwes yn fwy angerddol nag erioed. Ei waith yr wythnosau dilynol oedd cynal cyfarfodydd cyhoeddus mewn gwahanol drefydd o fewn cylch yr Undeb i roddi hanes y Gymanfa a’i gweithrediadau. Profodd ei anerchiadau gwresog, dyddorol, yn y cyfarfodydd hyn yn foddion tra effeithiol i drosglwyddo llawer o'r tân oedd yn llosgi mor angerddol yn ei fynwes ef ei hun i fynwesau y torfeydd a ymgasglent yn mhob man i wrando arno. Profodd felly yn Nhredegar ei hun, nes y teimlai y tafarnwyr a'r diotwyr ei fod yn gyddrefwr annymunol dros ben. Dywedent bob drygair credadwy ac anghredadwy am dano. Torai gelyniaeth y rhai mwyaf hyddysg mewn rhegyddiaeth allan mewn rhegfeydd a melldithion arswydlawn yn ei erbyn. Clywodd ei rieni hyn, ac erfynient arno fod yn fwy cymedrol a heddychol yn mysg ei gyd-drefwyr. Ei atebiad nodweddiadol oedd, nad wrth farn tafarnwyr a rhegwyr y dref y penderfynai ef lwybr ei ddyledswydd—" yn lle ofni, diolchwch fod genych fab gwerth ei regu."

Ond er gwresoced zel Evan Jones dros Ddirwest, nid ydoedd yn hobby ganddo, fel y gwelir hi gan lawer o ddirwestwyr cywir. Mor alaethus yr ymddengys drygedd tymorol ac ysbrydol Meddwdod, mor anghymharol bwysig y teimlant yr angen am waredu y ddŷnoliaeth o'i afaelion, nes y mae i fesur mawr yn gorchuddio pwysigrwydd pob achosion eraill, ïe, i lawer, hyd yn nod yr Efengyl ei hun, oddiwrth eu llygaid. Nid oedd ganddo ef yr un hobby. Mor eang oedd ei galon fel yr oedd ynddi le i bob achos da yn ol ei natur a'i bwysigrwydd. Llafuriai yn galonog o blaid yr holl Gymdeithasau crefyddol a gwladgarol, pob ymgais i lesâu a dyrchafu y ddynoliaeth mewn unrhyw ystyr. Y pryd hwn y sefydlwyd yr Undeb Efengylaidd, tuag at i holl "deulu Duw" o bob enwad ar y ddaear gydymdrechu i ddeisyfiad y "Cyntafanedig" gael ei ddwyn oddiamgylch, "fel y byddont oll yn un"—yn un mewn cariad brawdol tuag at eu gilydd, ac yn un mewn ymdrech i enill y byd yn ol i Dduw. Fel y gallesid rhagdybied am un o'i ysbryd rhyddfrydig, ansectaidd ef, yr oedd â'i dafod a'i ysgrif bin yn gefnogydd gwresog i amcan gogoneddus hwn yr Undeb Efengylaidd. Felly yr oedd hefyd i Gymdeithas Heddwch a sefydlesid yn ddiweddar er cynyrchu heddwch a chydweithrediad rhwng teyrnasoedd y byd, fel yr amcanai yr Undeb Efengylaidd rhwng gwahanol enwadau "Teyrnas Nefoedd." Teimlai ddyddordeb arbenig yn Nghymdeithas Heddwch trwy ei edmygedd o'i hysgrifenydd, y Cymro galluog, gwladgarol, y Parch. Henry Richard. Amlygai Mr. Richard