Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn awr ei gariad digyfnewid at hen wlad ei dadau trwy ei ymdrechion i enill holl ddylanwadau pob enwad crefyddol o'i mewn o blaid y Gymdeithas. Fel prawf eglur, ar yr un pryd, nad oedd Ieuan Gwynedd am heddwch nac undeb yn yr eglwys na'r byd ar draul aberthu yr egwyddorion mawrion o gyfiawnder, rhyddid cydwybod a barn, a chyfrifoldeb personol i Dduw, dangosai yr un zel o blaid Cymdeithas Rhyddhad Crefydd oddiwrth y Llywodraeth, oedd yn awr yn dechreu ar ei llafur pwysig. Yr oedd yn ddigon llygadgraff i weled yr hollol anmhosiblrwydd i'r Undeb Efengylaidd byth gyrhaedd ei amcan mawr o ddwyn y gwahanol enwadau Cristionogol oll yn un mewn teimlad na chydweithrediad hyd nes y dygai Cymdeithas Dadgysylltiad yr Eglwys Sefydledig hwynt oll yn un yn eu sefyllfa a'u hiawnderau crefyddol a gwladol. Undeb heb gydraddoldeb! Gweddio a llafurio am "gymundeb y saint" tra y byddont oll yn gwisgo gwarthnodau caethiwed a darostyngiad i un sect ffafredig! Y fath gabldraeth ar grefydd, cyfiawnder, a synwyr! Fel y gwelsom, yr oedd Ieuan Gwynedd yn ddadgysylltwr egwyddorol, gwresog, flynyddau cyn sefydliad Cymdeithas Dadgysylltiad, na chyhoeddiad cyntaf y Nonconformist gan y Parch. Edward Miall o Leicester, er goleuo ei gydwladwyr yn ei hegwyddorion. Fel amddiffynydd dewr yr egwyddorion hyny y daeth allan gyntaf erioed yn yr iaith Seisonig, yn 21 mlwydd oed, pan yn efrydydd yn Aberhonddu. Rhoddai brofion mynych yn awr yn Nhredegar o'r dyddordeb cynyddol a deimlai yn y Gymdeithas newydd hon a'i hegwyddorion. Siaradodd ac ysgrifenodd lawer o'i phlaid yn Gymraeg ac yn Saesonaeg. Enillodd y fath enwogrwydd fel dadleuydd goleu a grymus drosti, fel yr anogai llawer o'i gyfeillion mwyaf dylanwadol ef i ymgeisio am y swydd o ysgrifenydd y Gymdeithas, oedd yn awr yn wag. Ond er fod y cyflog blynyddol yn £300, parai gwaeledd parhaus ei iechyd iddo ofni ymgymeryd â swydd o'r fath gyfrifoldeb a llafur.

Gan faint ei feichiau o lafur gweinidogaethol, a galwadau lluaws o achosion cyhoeddus pwysig, yr oedd bywyd gweinidog ieuanc Saron yn rhwym o fod yn llawer mwy rhyddieithol, a'r symbyliadau i'w awen ganu yn llawer anamlach, nag erioed or blaen, Ond mor reddfol awenyddol oedd ei athrylith, y fath hyfrydwch pur a roddai y mil o iasau melusion a deimla gwir fardd i'w ysbryd, fel yr oedd i'w awen barhau yn hir dan unrhyw amgylchiadau yn hollol segur yn hollol anmhosibl. Yr oedd wedi ei eni yn fardd. Meddyliai yn fynych ar gân yn hollol ddiymgais. Yn ei gofnodau dyddiol yn ei Ddyddlyfr o 1837 hyd 1839, er eu bod wedi eu hysgrifenu fel rhyddiaeth, mae y brawddegau yn cydodli mor berffaith ag ydyw y meddylddrychau o farddonol. Ffrydiai dylif ysbrydoliaeth ei awen allan yn farddoniaeth yn anymwybodol iddo ei hun. Byddai darnau lawer o'i bregethau â holl briodoleddau y farddoniaeth berffeithiaf yn cydgyfarfod ynddynt ond ei mydr. Fel engraifft darllener ei bregeth ymadawol i eglwys Saron a geir yn tu dal. 301 o'i Weithiau. Ceir prif gynyrchion ei awen y pryd hwn yn tu dal. 44 hyd 54. Yn