Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mysg y rhai hyn ceir ei bump "Cathlau Blinder," a ganodd neu a gwynodd ei awen dan guriadau y tymhestloedd trymaf, llymaf, yr aeth trwyddynt yn ei holl fywyd, wedi colli ei faban, colli ei briod, a cholli ei iechyd ei hun,

"A minnau unig unig wyf,
Yn gwaedu dan fy nyblyg glwyf,
A chrwydro fel drychiolaeth wyw,
Yn methu marw—methu byw!"

Yn y Cathlau hyn cawn ei awen yn canu yn ei helfen a'i chywair cynhenid ei hun—yr elfen bruddglwyfus a'r cywair lleddf. Nid ymddangosodd erioed yn uwch fel bardd nac fel Cristion nag yn y Cathlau hyn a ganodd i lawr yn nyfnderoedd isaf profedigaethau. Yr oedd cyfansoddi y rhai hyn yn unig yn Nhredegar yn fwy na digon i sicrhau iddo le yn mysg meibion mwyaf ffafredig yr Awen Gymreig.

[ocr errors]

Ond os bu Ieuan Gwynedd, tra yn Nhredegar, yn ddystawach nag arferol fel bardd, bu yn llawer mwy llafurus fel llenor. Am yr adegau swynol a elwir "mynydau segur" neu "oriau hamddenol," nis gwybu efe erioed ddim. Oriau gwaith, ac oriau cwsg neu gystudd, yn y rhai nas gallai weithio, oedd holl oriau ei fywyd ef. Nis gwybu erioed ddim am "bechod gwreiddiol" yr Indiaid—diogi. Y mynydau a'r oriau a alwai ei gyd-drefwyr eu rhai "hamddenol," treuliai ef hwynt yn ei fyfyrgell—ei weithdy meddyliol—yno yn myfyrio, yn darllen, yn cynllunio, yn cyfansoddi, gyda dyfalwch diorphwys. Pwy bynag o filoedd glowyr a mwnwyr iach a chryfion y gweithydd mawrion o'i amgylch oedd y mwyaf ymroddedig i'w waith, anturiwn ddyweyd fod gweinidog ieuanc, afiach, egwan eglwys Saron yn fwy felly nag ef. Tra yr oedd gan y glowr a'r mwnwr ei oriau hamddenol a'i awr noswylio, ni fynai ein llafurwr meddyliol hwn na hamdden na noswyl. Ni roddai orphwysdra na dydd na nos i'w feddwl a'i ysgrif bin, oni ddeuai cystudd a phoen, neu ynte "tired Nature's sweet restorer, balmy sleep," yn mlaen i'w orfodi i'w rhoi i orphwys.

Yr oedd yn awr yn ohebydd mynych i'r Cylchgronau Cymraeg, i'r Amserau, y Carnarvon and Denbigh Herald, y Dysgedydd, y Cronicl, y Bedyddiwr, ac yn un o brif ohebwyr y Drysorfa Gynulleidfaol o'i chychwyniad yn 1843. Teimlai ddyddordeb mawr yn chwarterolyn cyntaf Cymru—y Traethodydd—a gychwynesid yn 1845, dan olygiaeth y Parchn. L. Edwards, Bala, a Roger Edwards, Wyddgrug. Cawn erthygl o'i eiddo yn mhob rhifyn o hono yn ystod ei arosiad yn Nhredegar. Amlygai awydd cryf am iddo fod yn gyhoeddiad hollol. genedlaethol, ac nid yn un Methodistaidd. Yn un o'i lythyrau anturiai brophwydo fel y canlyn am ddyfodol y prifathraw o'r Bala, yr hwn nad oedd y pryd hwnw ond cymhariaethol ieuanc. Wedi datgan ei lawenydd fod Mr. Edwards yn bwriadu cyhoeddi erthygl ar ddadgysylltiad yr Eglwys a'r Llywodraeth, a'i anog i ymuno â'r Gymdeithas newydd yr oedd dwyn hyny oddiamgylch yn amcan ganddi, ychwanega, "Mae tynged