Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymru yn ymddibynu i raddau arnoch chwi. Nid ydych eto ond ieuanc, ond y mae eich dylanwad yn ddirfawr ar y Trefnyddion; ac os estyna Duw i chwi nerth ac iechyd am nifer o flynyddau i ddyfod, byddwch wedi eu gwneyd ar eich llun a'ch delw eich hun. Yn ein mysg ni nis gallasai dyn mor ieuanc enill y fath ddylanwad, na'i gadw wedi ei enill, oherwydd ein cydraddoldeb. Ond byddwch chwi yn fuan yn alluog i ysgogi y Trefnyddion wrth eich ewyllys. Yr wyf yn taer weddio ar i ddoethineb Duw eich arwain i ffurfio y fath farnau ag a effeithiant er lles tragwyddol i'r hen wlad." Yr oedd Ieuan Gwynedd yn awr, trwy ei alluoedd a'i yni meddyliol, a'i gynyrchion awenyddol a llenyddol, wedi dringo i gylchoedd uchaf beirdd, llenorion, a gwladgarwyr Cymru, a'r enw barddol ymhongar a roddasai arno ei hun ddeng mlynedd yn ol, yn fachgen 15 mlwydd oed, wedi profi yn un prophwydol, ac wedi mwy na'i wirio, ac "Ieuan Gwynedd" wedi dyfod yn "household word" trwy yr holl Dywysogaeth.

Ond er cymaint a ysgrifenai y pryd hwn yn ei hen famiaith ei hun, yr oedd ei lafur yn yr iaith Saesonaeg yn llawer mwy, ac yn profi mor ragluniaethol ffodus oedd argyhoeddiadau boreuol ei feddwl o'r angenrheidrwydd am iddo lwyr feistroli yr iaith hono. Mae y gorchestgampau llenyddol a gwladgarol a gyflawnodd Ieuan Gwynedd yn yr iaith Saesonaeg yn ystod y chwech mlynedd olaf o'i fywyd byr, rhai y bydd ei goffadwriaeth byth yn fendigedig yn Nghymru o'u plegyd, yn esiamplau a symbylau o'r fath gryfaf i bob Cymro ieuanc i wneyd yr iaith hono yn destyn arbenig ei efrydiaeth yn nghychwyniad gyrfa ei fywyd.

Yn fuan wedi ei ddyfod i fyw i Dredegar derbyniodd gais oddiwrth y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol am iddo gyfieithu Christian Evidences" yr Archesgob Whately, llawlyfr bychan ar brofion Cristionogaeth, wedi ei fwriadu yn benaf i ieuenctyd. Cyfieithesid ef eisoes i brif ieithoedd Ewrop ac Asia. Derbyniodd £10 am ei wasanaeth. Wrth fyned yn mlaen â'i lafur, cyfarfyddodd â brawddegau a dybiai efe yn gyfeiliornus, ac anturiodd awgrymu i'r awdwr bydenwog gyfnewidiadau yn eu geiriad yn y cyfieithiad Cymraeg. Argyhoeddodd ei resymau yr hen arwr llenyddol fod ganddo gyfieithydd Cymraeg allan o gylch y cyffredin o ddynolryw. Cymeradwyai ei holl awgrymiadau, ac arweiniodd hyn i ohebiaeth a chyfeillgarwch a barhaodd tra y bu Ieuan byw Anrhegodd yr Archesgob ef à llawer o gyfrolau gwerthfawr o'i awduriaeth ei hun ac enwogion eraill. Amlygai gydymdeimlad dwfn â'i wendid corfforol, ac mewn un llythyr dyddorol maith taer anogai ef i roddi prawf ar animal magnetism" fel meddyginiaeth.

Yr oedd yn ohebydd mynych i'r Nonconformist, newyddiadur a gychwynesid y pryd hwn dan olygiaeth y Parch. E. Miall, fel organ Cymdeithas Rhyddhad Crefydd. Ei ohebiaeth bwysicaf iddo oedd cyfres o un ar ddeg o "Welsh_Sketches," yn cynwys erthyglau ar wahanol ddosbarthiadau cymdeithasol ac enwadau crefyddol Cymru—addysg a chrefydd yn Nghymru—yr Eglwys a'r