Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eglwyswyr, ac Ymneillduaeth a'r Ymneillduwyr, yn Nghymru, "yr hen Ficer," &c. Ychwanegodd y "Sketches" tra dyddorol hyn lawer at ei boblogrwydd trwy Gymru a Lloegr, ac enillasant iddo safle pwysig yn mysg y prif gadfridogion yn nghychwyniad brwydr fawr y Dadgysylltiad.

Profodd Cymanfa Ddirwestol y Byd yn Llundain yn Awst, 1846, yn symbyliad grymus i lenyddiaeth ddirwestol y deyrnas hon a gwledydd eraill. Gwnaeth yr anturiaethus a'r dyngarol Mr. John Cassell ymdrech canmoladwy i sicrhau i'r werin lenyddiaeth ddirwestol o safon uchel trwy gyhoeddiad y cylchgronau ceiniog, "The Teetotal Times" a'r "Teetotal Essayist." Cynwysai yr olaf draethodau buddugol ar wahanol destynau dirwestol. Yn nechreu 1847 cynygiodd Mr. Cassell wobr o £10 am y traethawd goreu ar "The Moral Obligation of Total Abstinence." Daeth lluaws o brif ysgrifenwyr dirwestol y deyrnas allan yn ymgeiswyr arno. Y buddugwr, trwy farn unfrydol y beirniaid, oedd ein gwron llenyddol ieuanc o Dredegar. Cyhoeddwyd ei draethawd yn y Teetotal Essayist am Mehefin, 1847. Cyfansoddwyd ef dan amgylchiadau tra hynod. Yr oedd ei faban bychan newydd farw a'i gladdu, a "hyfrydwch ei lygaid a dymuniad ei galon, un o'r ysbrydoedd addfwynaf, tyneraf a phuraf a anadlodd ei hunan erioed i mewn hyd i Nef y nefoedd, ei anwylaf Kate," yn ei gwely, yn dilyn. yn araf a sicr ar ei ol. Yr oedd yntau mewn ystafell wely arall yn dechreu adferu o gystudd bygythiol, wedi bod yn ei wely er's tua chwech wythnos, ac heb allu pregethu er's pedwar Sabboth ar ddeg. Yr oedd ei "feddwl wedi suddo i'r dyfnder isaf, ac yn ysglyfaeth i'r trallodion chwerwaf, a'i lwybr yn ymddangos wedi ei amgylchu gan, gallai bron ddyweyd, dywyllwch dwyfol." Ei amcan yn ysgrifenu ar y testyn deniadol oedd ceisio lliniaru arteithiau ei ysbryd trwy droi ei fyfyrdodau oddiar ei brofedigaethau. Iddo ef gwaith, nid y ddiod feddwol, oedd y feddyginiaeth fwyaf effeithiol i dristwch ei enaid. Cyrhaeddodd y newydd syn, cysurlawn ef mai efe oedd y buddugwr tua'r amser ag yr oedd i roddi corff marw ei anwyl briod i orwedd gyda'u baban yn eu bedd. Mae y traethawd buddugol hwn yn un gwir orchestol, a syndod parhaus pob darllenydd o hono fydd iddo erioed allu cyfansoddi y fath draethawd dan y fath amgylchiadau calonrwygol. Adseinid clod yr awdwr trwy holl gylchoedd dirwestol y deyrnas, a chafodd y traethawd gylchrediad tra helaeth. Mor effeithiol oedd ei ddylanwad ar un boneddwr Wesleyaidd yn Manchester, fel yr anrhegodd holl weinidogion a chenadon y Cyfundeb trwy y byd â chopi o hono. Mor uchel y syniai y cyhoeddwr ei hun, Mr. Cassell, am ei ragoroldeb fel yr anfonodd yntau gopi o hono i holl aelodau dau Dŷ y Senedd. Arweiniodd y fuddugoliaeth hon i gyfeillgarwch rhwng y cyhoeddwr a'r buddugwr a barhaodd tra y bu Ieuan byw. Ymddangosodd traethodau rhagorol eraill o'i waith mewn rhifynau dilynol o'r Teetotal Essayist ar "The Duties of Sabbath School Teachers in regard to Total Abstinence," "The Evils of Moderate Drinking," &c., &c.