Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sylwi yr oeddym fod Robert Roberts wedi ei gynysgaethu â meddwl cryf. Dywed Syr William Hamilton mai dyben Rhesymeg (Logic) yw ein dysgu i feddwl yn dda. Felly dyben Rheitheg (Rhetoric) yw ein dysgu i gyfleu ein meddwl yn dda i ereill trwy lafar neu ysgrifen. Wrth "feddwl dda" yn yma y golygir nid ansawdd ond ffurf meddwl mewn trefn a chysylltiad, yn unol âg egwyddorion rheswm a deddfau cynhenid y meddwl ei hunan. Nid ydym yn tybied yr astudiodd Robert Roberts lawer ar Resymeg, ond yr oedd natur wedi rhoddi iddo feddwl da o ran ansawdd a ffurf. Dengys ei sylwadau ddoethineb a barn, a chwaeth naturiol dda. Y mae yr elfen bwysig o nerth yn amlwg yn ei feddyliau; nid yw yn dyweyd pethau egwan a di-bwynt. Y mae ansawdd y meddyliau yn rhagorol. Ac y mae ffurf ei feddwl yn dda. Y mae y fath beth yn bod a moesoldeb arddull. Diau fod rhinweddau meddyliol yn dyfod i'r golwg mewn arddull fel y mae rhinweddau moesol yn ymddangos mewn cymeriad. A mwy na hyny: y mae y meddyliol i ryw raddau yn ddangoseg o'r moesol. Anhawdd ydyw meddwl yn ffafriol, nid yn unig am ben ond am galon y dyn a ysgrifena neu a lefara mewn arddull rodresgar a chwyddedig. Onid yw ei hunanoldeb a'i wag—ogoniant yn gosod eu delw yn amlwg ar ei arddull? Symledd yw sylfaen pob rhagoriaeth meddyliol, fel y mae gonestrwydd yn sylfaen pob rhagoriaeth moesol. A diau fod y meddwl syml a'r galon bur yn perthyn yn agos i'w gilydd. Credwn fod arddull Robert Roberts yn dangos meddwl da o ran ffurf ac arferion gystal ag ansawdd. Y mae ei bregeth yn llawn o boints. Cymer afael yn barhaus ar y prif bethau—y pethau mwyaf pwysig sydd i'w dyweyd ar bob mater. Nid yw fel un yn "curo awyr," fel y dywedai yr Apostol Paul; nac fel yr un y dywedai Whateley am dano ei fod "yn anelu at ddim ac yn ei daro." Y mae i'r bregeth amcan pwysig i ddechreu; detholir y pethau mwyaf cyfaddas i gyrhaedd yr amcan. Y mae y bregeth yn drom o fater—yn llwythog o sylwedd. Y mae y rhaniadau yn naturiol, ac yn y drefn fwyaf cywir. Cwyd y naill feddwl o'r llall; rhed unoliaeth, a threfn trwy y cwbl. Y mae yr arddull yn syml a nerthol," ac yn nodedig o gryno a chynwysfawr. Buom yn synu at y nodwedd olaf yma mewn un wedi cael mor ychydig o