a dagrau, yn ymdreiglo ar lawr ei ystafell, yn ymbil gyda Duw mewn gweddi. Fel ei Feistr, treuliai oriau ganol nos, ac weithiau trwy y nos, yn ymdrechu gyda Duw; gan ddyweyd fel Jacob: "Ni'th ollyngaf oni'm bendithi." Ac wedi gorchfygu y nefoedd, gorchwyl hawdd oedd gorchfygu y ddaear. Wedi cael nerth i orchfygu gyda Duw, yr oedd y nerth hwnw yn rhwym i orchfygu gyda dynion. Galwodd y Parch. John Williams, Dolyddelen, heibio iddo unwaith, i edrych am dano. Yr oedd yn gyfeillgar âg ef ac yn hyf arno, "Wel, Robert bach," meddai, "yn mha le y byddwch yn cael y pregethau ofnadwy yma sydd genych?" Gafaelodd Robert Roberts yn ei fraich, cymerodd ef gam neu ddau gydag ef, a chan agor cil drws yr ystafell ddirgel, pwyntiai i mewn â'i fys, gan ddywedyd: "Yna, yna, mewn gweddiau taerion ac ymdrech gyda Duw, y byddaf yn eu cael!" Yr oedd yn ddyn o dduwioldeb ddwfn, o gymundeb agos a chyson â Duw, a'i feddylfryd ar bethau tragywyddol.
Fel diweddglo i'r sylwadau hyn, pe buasai rywun yn gofyn i ni ein barn am y pethau oedd yn ffurfio prif hynodrwydd gwahaniaethol Robert Roberts fel pregethwr, yn ychwanegol at raddau helaeth ac annghyffredin o'r pethau a enwyd eisoes, y rhai ydynt mewn amrywiol fesurau yn hynodi pob pregethwr mawr, buasem yn nodi dau beth.
1. Teimlad angerddol. Sylwyd o'r blaen ar nodwedd danllyd ei weinidogaeth. Y mae y bywyd ysprydol yn wres. Y mae yspryd y weinidogaeth yn wres. A diau fod y naill a'r llall yn y pregethwr rhyfedd hwn mewn mesurau annghyffredinol. Ond dylem gofio peth arall sydd i raddau yn esboniad ar hyn, sef ei fod yn ol pob tebyg wedi ei gynysgaethu gan natur â theimladau angerddol, pell uwchlaw y cyffredin. Yr oedd serchiadau ei enaid yn ffwrneisiau mawrion; "ystoriai hwynt â thânwydd o wirioneddau y Gair Dwyfol; ac mewn iawn bryd fe gyneuid y cwbl â thân o'r nef. Enynai y teimladau i wres gwynias—i nwyd (passion). Yr oedd ei bregeth fel ymdywalltiad o nwyd sancteiddiedig. Dywedir am Bossuet y byddai yn "cymeryd tân" wrth lefaru. Felly Robert Roberts: yr oedd ei bregeth yn ei feddiannu, yn ei gyneu, yn llosgi o'i fewn, nes yr oedd y bregeth a'r pregethwr yn myned yn un oddaith losgedig, i wasgaru y tân dwyfol trwy yr holl gynulleidfa. Nid yn