frawd iddo, "ai nid wyt yn iach fy mrawd?" atebodd yntau "ydwyf fi, yn ddigon iach, fel arferol." Y trydydd dydd galwodd ei frawd ef o'r neilldu, gan ei holi yn bwyllog a thirion, pa beth oedd arno? atebodd yntau, dan wylo, "ddarfod i mi ddiystyru cymmaint arnat ti a dy grefydd yw un peth, a gwneud cyn lleied sylw o'r pethau a fyddit yn eu ddywedyd wrthyf." Yna holodd John ef am y bregeth a wrandawsai; yntau a attebodd yn rhwydd, ac a ddangosodd fel yr oedd y pethau wedi effeithio ar ei feddwl; a'r peth rhyfeddaf a welsai ef erioed oedd ei fod ef yn mhlith y carcharorion yr oedd gwaeddi arnynt, Trowch i'r amddiffynfa. Dechreuodd holi John pa beth oedd yr amddiffynfa hono; yna arweiniodd John ef i ail gofio y bregeth, pa beth oedd y pregethwr yn ei ddywedyd oedd yr amddiffynfa, a pha fodd yr oedd pechadur tlawd yn ffoi at Grist, a'r cyflawnder sydd yn yr iachawdwriaeth, a'r croesaw i dderbyn pechaduriaid, megis yr afradlon yn dyfod at ei dad i gael ymgeledd, a'r tŷ, a'r gwledda ar y llô pasgedig. Wedi cryn lawer o ymddiddan, dymunodd ei frawd arno ystyried a sylwi ar y geiriau yn 2 Tim. ii. 22,"Chwantau ieuengctyd ffo oddiwrthynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda y rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur.' Ar ol ymddiddan lled faith am yr adnod, dymunodd John arno beidio aros i gloffi rhwng dau feddwl, ond rhoddi ymadawiad am byth i holl deyrnas y diafol, ei deiliaid, a'u gwaith; ac yn ddiymaros i ymuno âg eglwys Dduw a'i waith, yr hyn hefyd a wnaeth efe. Parodd hyn lawenydd a chysur mawr i'w deulu: ond ni ddaeth neb o'i gyfeillion gydag ef y pryd hyny, ond synu yn aruthr a wnaethant, pa beth a wnaethai i Robin ymadael â hwy mor ddisymwth: a rhai a ddywedasant ddarfod i'w frawd John ei lygaid—dynu o'r diwedd. Y pryd hyn yr oedd ef yn gweithio yn y Gloddfa, neu y gwaith llechau a elwir y Cilgwyn, yn agos i'w gartref; ond wrth ystyried amryw bethau, meddyliodd ei deulu mai mwy buddiol a fyddai ei ollwng ef i wasanaethu, fel y c'ai ymarfer â gwaith ar dir; a hyn a wnawd, yn ol ei ddymuniad a'i ewyllys yntau; a'r lle cyntaf yr aeth iddo i wasanaethu oedd Cefn Pencoed, yn Eifionydd: cafodd bob tiriondeb a charedigrwydd, yn enwedig gan y brodyr oedd
Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/30
Prawfddarllenwyd y dudalen hon