yn hollol oddiwrth y poenau, a chryfhaodd i raddau helaeth.
Bellach dilynir yr hanes a geir gan Richard Jones, gynt o'r Coed-cae-du, y lle yr oedd ef yn gwasanaethu.
Mewn llythyr at John Roberts, y mae yn rhoddi yr hanes. fel y canlyn:—
GAREDIG GYFAILL.—Rhyfeddais lawer gwaith na fuasai ryw un, cyn hyn, wedi ysgrifenu rhyw beth o hanes eich brawd Robert Roberts; ond wrth weled nad oedd neb yn gwneuthur, meddyliais y gallai yr ychydig sydd genyf fi o'i hanes fod yn wasanaethgar; a gobeithiaf y bydd i chwi, gyda'r neb a allo, chwanegu yr hyn sydd yn ddiffygiol.
Y lle cyntaf y cefais i adnabyddiaeth arno oedd yn Nghefn Pencoed, yn mhlwyf Llanarmon, Eifionydd, yn gwasanaethu; pa hyd y bu yno nis gwn; ond hyn yr wyf yn ei wybod, mai at fy nhad a'm mam, i Goed-cae-du, Eifionydd, y daeth oddiyno, ac a fu gyda hwy yn hwsmon ddwy flynedd. Ond mi a feddyliwn, (hyd ydwyf yn ei gofio), ei fod, trwy naill ai oeri neu ysigo, gwedi cael rhyw afiechyd cyn dyfod at fy nheulu i. Ac erbyn pen y dwy flynedd yr oedd ei afiechyd wedi myned mor gryf, nes oedd yn analluog i wasanaethu yn y modd hwn mwy; ac er ei fod y pryd hwnw yn ddyn hoyw a bywiog, etto yr oedd ei afiechyd wedi gwreiddio yn rhy ddwfn idd ei ysgwyd ymaith; ond fe a weithiodd o'r diwedd mor gryf, nes ei wneuthur o fod yn ddyn lluniaidd a thàl yn gwrach byr a chrwcca; a thyna agwedd ei gorph afiachus yn llafurio, holl ystod amser ei weinidogaeth. O ran ei dymer naturiol yr oedd yn ddyn siriol, diniwed, ac o herwydd hyn, gan fy mod innau yn fachgen llon a chwareus, (er y medrwn, os byddai'r achos yn galw, fod gan sobred a'r sant), yr oeddwn yn dra hoff o Robert Roberts, canys fe a chwareuai â mi weithiau yn llawen; eithr byddwn yn cymmeryd gofal na wnawn i ymgipris at hyn pan y byddai yn agos at amser dyledswydd deuluaidd. Yr wyf yn barnu yn dra sicr, fod fy mam, yn llaw rhagluniaeth, yn foddion o estyniad ei oes ysbaid ei weinidogaeth, ac ychydig cyn hyny; fel yr oedd hi yn deall mwy