Tudalen:Cofiant a Phregethau Robert Roberts, Clynnog.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oldeb ei gyffelybiaethau, a phwys ei resymau : ac yn enwedigol pan y byddai llewyrch yr arddeliad ar ei ysbryd; a chyda hyn yr oedd bywiogrwydd ac eondra digonol yn ei ysbryd a'i wynebpryd.

Ond y peth mwyaf nodedig yn ei holl gymmwysderau i'r fath orchwyl pwysig a goruchel ydoedd, yr addurn dwyfol o'r nef; yr hwn ydoedd fel gwisgoedd llaesion Aaron, yn ei guddio o'i ben i'w draed, pa waeledd bynag a allai fod danynt; yr oedd arogl y pomgranadau, a sain y clychau aur, yn cyhoeddi ei sancteiddrwydd trwy holl Israel. Eithr y mae yn debyg, na wisgwyd yr offeiriaid erioed â'r fath addurn ag y gwisgodd yr Arglwydd yr offeryn tlawd hwn, ac a'i cadwodd i lewyrchu yn danbaid yn ffurfafen yr eglwys nes gorphen ei dymor: ac a'i cynhaliodd fel angel tanllyd i ehedeg y'nghanol y nef, gan gyhoeddi efengyl y deyrnas yn ei phurdeb a'i nerth. Ei lef a fyddai, ar amserau, megis taranau cryfion yn erbyn Babilon fawr; fel y tybiasid fod yr holl ferthyron, a'r saint o'r nef a'r ddaear yn adsain, gan waeddi, "Syrthiodd, Babilon fawr; daeth awr ei barn hi, telwch iddi yn ddauddyblyg." Ac yn ddiau gwnaeth Duw ddefnydd rhyfedd o hono i fwrw i lawr lawer darn, ac i wneuthur rhwygiadau mawrion yn ei muriau, trwy holl Gymru, a pharthau o Loegr, sef y lle y cyrhaeddai adsain ei dafodiaith ef. Eithr gwir yw y gair, "arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol; ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr.” Felly nid oedd yma na dysgeidiaeth na graddau i ymogoneddu ynddynt; nac unrhyw dit o ddynol fri i ymdderchafu ynddynt ; ond "Cleddyf yr Arglwydd a Gideon -ffon dafl yn llaw bugail defaid, a Duw. Yr un modd mewn perthynas i ddefnyddioldeb yr offeryn hwn, gallaf ddywedyd, "Fe welodd Duw "Fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sy'n credu," ac amlygu ei nerth trwy wendid, a gwneuthur doethineb y byd hwn yn ynfydrwydd, â'r peth a elwir gan ddynion yn ffolineb. Yn nechreuad ei weinidogaeth, fel yr oedd o ddoniau naturiol helaeth, fe bregethai yn drefnus, pa fodd bynag y byddai o ran cynnorthwyon; eithr nid bob amser mor nawsaidd a buddiol ag y buasai dymunol; fel y mae yn gyffredin yn digwydd i bregethwyr ieuaingc, meddylgar ac eofn yn eu galwad.