Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/115

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDU. 103

beimiadu y byddai ar y pryd, gadawai bobpeth yn ebrwydd a siriol, er mwyn boddio cywreinrwydd y naill, neu er mwyn mwynhau cyindeithas y Hall, neu wneuthur cymwynas iddo. Tra yn magu y plant, gwnai lawer o fan-orchwylion er mwyn cynorthwyo ei briod ; canys nid oedd ganddynt yr un forwyn tra bu ei wraig byw. Pan ystyriom y pethau hyn, mae yn anhawdd credu braidd fod Eben wedi gallu chwareu ei ran fel y gwnaeth ar esgynlawr ein llenyddiaeth.

Ar ol cyfansoddi "Dinystr Jerusalem," ni chanodd un cyfansoddiad maith am flynyddau. Ond erbyn Eisteddfod Frenhinol Beaumaris, yr hon a gynhaliwyd yn 1832, oddeutu deng mlynedd ar ol Eisteddfod y Trallwm, cyfansoddodd ar ddau destyn, sef Chwe' Englyn i Bont Menai, ac Awdl ar destyn y gadair, sef " Drylliad y Rothsay Oastle." Bu yn llwydd- ianus ar y cyntaf, ac yr oedd ei gyfansoddiad yn oreu o driugain a dau o gyfansoddiadau a anfonasid i'r gystadleuaeth ; ond ni lwyddodd i enill y gamp ar yr olaf, a'r pwysicaf o lawer. Diamheu ei fod, fel rhywun arall, yn teimlo yn siomedig ; eto teimlai yn hollol foddlawn i'w dynged. Oredai fod cyfiawnder wedi cael ei wneud, a chredai fod dedfryd Gwallter Mechain yr un mor deg pan y trodd y fantol yn ei erbyn yn Beaumaris, ag ydoedd pan y gogwyddodd yr un fantol ddiwyrni o'i blaid yn y Trallwm. Y mae yn ffaith gwerth ei chofnodi na ddarfu i Eben, yn ystod ei noil yrfa farddonol, ym- osod gymaint ag unwaith ar ei feirniaid, er ei fod lawer tro wedi digwydd "colli." Gwyn fyd na byddai llawer o feirdd ein gwlad yn debycach iddo yn hyn, yn gystal ag mewn llawer o ystyriaethau pwysig eraill. Nid y dynion hyny a gwynant yn wastadol eu bod wedi cael " cam," a hyny cyniddynt gael cyfle i ddarllen y cyfansoddiad buddugol, nid y