Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/130

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

118 COFIANT

newydd gael ei adeiladu, etholwyd yntau yn ddiaeon ; a chyflawnodd y swydd bono yn y raodd mwyafffydd- lawn hyd ei fedd. Nid oedd dim yn ormod ganddo i'w gyflawni gydag actios mawr y Gwaredwr. Ei dŷ ef oedd y tŷ capel ; ac yno y derbyniai gweision yr ArgJwydd yr ymgeledd mwyaf tirion a chroesawgar.

Yr oedd ganddo allu mawr i ddeall yr Ysgrythyrau, ac i gyfranu ei wybodaeth grefyddol i eraill. Ni wnai fawr ddefnydd o esboniadau ; a chredai mai synwyr cyffredin, a phrofìad personol o wirioneddau y Beibl, oedd y moddion effeithiolaf i gael gafael ar ei drysorau cuddiedig. Ystyrid fod yn Eben gryn lawer o'r " crefyddwr ben ffasiwn."

Yr oedd ganddo reolaetb ardderchog ar ei deulu ei bun ; ac yr oedd yn ofalus iawn am ddysgu ei blant i iawn ymddwyn, ac i fod yn gynil a darbodus, ac uwchlaw'r cyfan, yr oedd yn ofalus neillduol am eu meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ac ni bu ei lafur yn ofer. Gallwn dystio, gyda'r pwyslais cryfaf, mai teulu crefyddol, yn mbriodol ystyr y gair, oedd teulu Eben Fardd. Yr oedd hefyd yn llaf urus a def nyddiol iawn gyda'r Ysgol Sabbathol ; ac yn barod bob amser i gefnogi unrhyw symudiad daionus mewn ystyr gymdeithasol neu grefyddol.

Nis gwyddom pa bryd y gorphenem y rhan hon o'r traethawd, pe yr elem yn mlaen i gofnodi yr holl betbau a wyddom am y prif-fardd ; ni wnawn, gan byny, ond cofnodi hanes ei ddyddiau diweddaf, ac yr ydym yn credu nas gallwn wneud yn well, gyda golwg ar byn, na dyfynu geiriau un o gyfeillion myn- wesol Eben Fardd, sef y Parch. R. Hughes, Uwch- law'r Ffynon. Dyma fel y dywed yn " Y Drysorfa," am Kbrill, 1863 :—