Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/138

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

126 COFIANT

yn ei feddu ; ac yn ei Awdl ar " Farddas," dywed bardd Clynnog ei hun :—

Orehoyll yw prif bwyll y bardd, Y cryfaf yw y creufardd."

Ond, pa fodd bynag am hyny, fe addefa pawb fod arucheledd yn un o orseddfeinciau uchaf yr awen, neu yn hytrach yn un o'r bryniau uchelaf a mwyaf agos i'r nefoedd ag y gallodd un awen erioed ei ddringo, o ddyddiau Job hyd yn awr. Ychydig iawn, yn wir, sydd yn gallu euill un math o glod ar y maes dyrchafedig hwn. Y mae canoedd yn gallu bod yn dyner, yn ffraeth, neu yn dlws, ond rhyw un o bob cant o'r lluoedd hyny sydd yn gallu rhagori yn yr aruchel. Dyma un o brif nodweddion Homer o Milton. Gwelwyd llawer dyn bach ei feddwl a allai ysgrifenu can doddedig, ambell dro, os byddai ei enaid yn cael ei gynhyrfu gan ryw deimlád dwfn ar y pryd. Ood ni all neb ysgrifenu yn aruchel ond y dyn gwir fawr. Ar gyfrif y teilyngdod uchel hwn y mae Eben yn hawlio sefyllfa dra anrhydeddus yn mhlith beirdd, ac yn wir, prif-feirdd mwyaf awenyddol ei wlad. Mae yn wir y rhaid iddo ildiaw y llawryf am lymder gwatwareg i Thomas Edwards o'r Nant, amgoethder i Gwallter Mechain, am dlysineb i Alun, ac am anger- ddoldeb a dyfnder teimlad i Ieuan Glan Geirionydd ; ond ni raid iddo byth ildiaw y llawryf am arucheledd, i unrhyw brif-fardd Cymreig. Mae y mawreddig- rwydd urddasol hwnw mewn syniad ac arddull, sydd yn dyrchafu yr enaid ac yn ei lethu â syndod a boddhad — mae y gallu nerthol a rhyfedd hwn, a adnabyddir wrth yr enw arucheledd, i'w ganfod yn eglur yn nghynyrchion Eben Fardd. Ac nid rhyw fflachiad amserol, yn awr ac yn y man, oedd aruch- eledd Eben ; ond rhyw afon lydan, ddofn, a lifai yn fawreddog o hyd, er ei bod weithiau yn rhedeg yn