Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/145

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDU. 133

bod yn cyrchu yn barhars at y nod hwnw er ys llawer dydd, er nad oedd y cyhoedd yn gallu gweled ei sym- udiadau. Yr oedd wedi dechreu rhigymu er pan yn saith oed, fel yr addefai yn ei araeth yn Eisteddfod Madog, pan dderbyniodd ddarlun hardd o honoei hun, fel arwydd o barch calon ei gydwladwyr tuag ato — amgylchiad yr anghofiasom ei gofnodi yn y rhan gyntaf o'r traethawd. Yr oedd hefyd wedi bod yn ddisgybl barddol i Dewi Wyn a Sion Wyn o Eiflon er pan yn bedair-ar-ddeg oed ; ac er mai yr Awdl ar t4 Ddinystr Jerusalem " oedd y eyfansoddiad cyntaf, fe allai, a anfonodd i gystadleuaeth, eto rhaid ei fod wedi cyfansoddi llawer o ddarnau eraill yn y cyfwng o saith mlynedd oedd wedi myned heibio er pan rodd- asai ei hun dan ddisgyblaeth ei athrawon.

Oysylltir enw Eben braidd bob amser â " Dinystr Jerusalem," fel pe byddai ei fri fel bardd yn dibynu yn benaf ar y eyfansoddiad hwnw ; ac y mae dynion a ystyrid yn " feirniaid craffus " wedi meiddio dweyd wrth y byd na chyfansoddodd bardd Olynnog ddim byd cystal a'r Awdl hono. Yr ydym ni, pa fodd bynag, yn cael ein tueddu i farnu yn wahanol ; a chredwn mai cam ag Eben y w cyfeirio at " Ddinystr Jeru- salem " fel campwaith ei oes. Mae'n wir fod y eyf- ansoddiad hwn wedi cael llawer gwell mantais i gyr- haedd poblogrwydd nag a gafodd cyfansoddiadau dilynol y bardd. Yr oedd yr awdwr yn ieuanc, yn llawer ieuangach na'r un cadeirfardd a y mddangosasai o'i flaen, ac yr oedd v> edi cyrhaedd prif anrhydedd llenyddol ei wlad mewn modd disymwth ac annis- gwyliadwy. Yr oedd canmoliaeth ddigymysg y beirn- iad hefyd yn gynorthwy nid bych;m i beri Tr wlad feddwl yn fawr o'r Awdl. Dyma fel y dywedodd Gwallter Mechain am dani :— -