Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/160

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

148 COFIANT

Nid oeddynt neb amgen na dedwydd eneidiau, Yn brysio i waered mewn uchel folianau, I ddidranc feddianu eu cyrff adnewyrldol, Mewn anniflanedig ffurf bur ac ysbrydol."

Fe allai i Eben gael gafael ar y syniad tra phryd- ferth uchod wrth ddarllen y llinellau canlynol o eiddo Pollok :—

" And now, descending from the bowers of heaven, Soft airs o'er all the earth, spreading, were heard, And Hallelujahs sweet, the harmony Of righteous souls that came to repossess Their long neglected bodies."

Dyry Pollok gân soniarus y Saint mewn cyferbyn- iad i ruddfanau y colledigion, ac nid mewn cyferbyn- iad i lef yr archangel, fel y gwna Eben. Yr un yw y syniad, mae'n wir, gan y ddau fardd ; ond y mae Eben yn ei ddefnyddio mor wahanol i Pollok, ac yn gwneyd darlun cymaint cyflawnach ac effeithiolach o hono, fel na feddyliai neb fod yma ddim tebyg i len- ladrad, ond y rhai liyny na wyddant y gwahaniaeth rhwng llen-ladrad ac efelychiad cyfreithlawn. Pe byddai i'r teulu hyn ddarllen Milton, ar ol iddynt fod yn darllen yr awduron clasurol a'r Ohwedlau Pagan- aidd, byddent yn barod i restru y prif-fardd Seisnig yn mhlith y dosbarth mwyaf anonest yn y byd. Mae yn amlwg fod Addison yn ddyledus i Milton am y syniad yn nghylch anfarwoldeb yr enaid, ar yr hwn y sylfaenodd y desgriflad diguro a ganfyddir yn ei " Oato ; " ond nid ydym yn gwybod i undyn fod mor ynfyd a chyhuddo awdwr " Oato M o len-ladrad.

Ni fynem er dim roddi ein gair i'r darllenydd ein bod yn dyfynu y rhanau goreu o'r Bryddest ogoneddus sydd genym dan sylw. Y mae'r cyfan yn ymddangos i ni fel yr wybren, ar noson glir yn y gauaf — oil yn hardd ac oil yn ddysglaer ; er fod rhai rhanau, ond