188 COFIANT
IOAN.
March eto sy'n rhodio'n rhydd,
A thrwy laid mathra wledydd ;
Gwael yw ei liw, sef gwelw-lâs —
Ond iddo'n hynod addas,
Oanys ni cheir ond cwynion
A garwaf rwyg ger ei iron.
Ei enwog farchog a fyn
Marwolaeth — y mawr elyn :
I fywyd mor ddifáol — yw ei raib
Yn ei ruthr andwyol ;
Yn ei daith, fel egin dol,
Edwina'r teulu dynol.
O'i ol y bedd a welir,
A safn dy well, hell, a hir ;
Deil lwyth o genedlaethau
O'i raewn, ac Och ! nis rayn gau.
Ei ddilyn i ddïaledd
Wna newyn, yn wyn ei wedd ;
A'r cleddyf, yn hyf ei nod, — wna erchyll
Gynyrchu ei ddifrod ;
Ha ! fe welaf fwystfilod
I weini dig Angau'n d'od.
Mewn lladd y mae yn llwyddo,
A Uoriaw brig llawer bro ;
Onid dinystr plant dynion
Yw noil fri ei erchyll f ron ?
Yn yr iasau hyn arosaf — agwedd
Y marchogwr nesaf ;
Un olwg waeth ni welaf,
O ran gwg, na'r hon a gaf.
Y burned sel a chwelir — a'r olwg
Ar eiliad newidir ;
Yn lie y march llym a hir,
Golwg fwy teg a welir.
Eneidiau cyfiawn ydynt —
Eithr rhai da ferthynvyd ynt :
A hwy dd'wedant yn ddidor,
Ac unfryd, " Pa hyd, ein Hior ?