Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

Mae dwy chwaer iddynt eto yn fy w, os nad wyf yn camgymeryd, un yn Virginia ac un yn North Dakota. Boed nawdd Duw drostynt. Mae ynwyf barch calon i'r tealu oll. Oefais amser hyfryd yn eu cartref lawer tro pan yn byw yn Rosendale. Yn mynwent Soar y mae y teulu yn huno, ac y mae cofgolofn werthfawr wrth fedd Risiart Ddu. Ffarwel, anwyl hen ffrindiau. Byddaf finau gyda chwi yr ochr yna i'r llen yn y man.

O'r "Drych," Chwefror 25, 1904.

Colli Hen Sefydlwyr. Gan y Parch. David Price, Oshkosh.

Nid oes ond tuag un rhan o ddeg o'r flwyddyn 1904 wedi myned heibio, eto y mae pedwar o hen sefydlwyr ardal Oshkosh, Wis., wedi myned i'r wlad o'r hon ni ddychwel yr un teithydd.

Y pedwerydd a alwyd ymaith oedd John Edwards, Rosendale. Dyma gymeriad eto hollol ar ei ben ei hun. Cyrhaeddodd Mr. Edwards raddau uwch o ddiwylliant meddyliol na neb arall yn y sefydliad, am a wn. Parhaodd i fod yn efrydwr drwy ei oes hir o yn agos i 76 mlynedd. Daeth yma yn 1850. Gwyr darllenwyr y "Drych" am dano lawn cystal a'r un sydd yn ysgrifenu, gan eu bod wedi darllen ei ysgrifau cryno, byrion, dyddorus ac ysgolheigaidd ar ei ddalenau drwy y blynyddau. Mae bellach dros 38 mlynedd er pan wyf yma, eto ni welais ef erioed. Arferaf fyned i gyfarfodydd cyhoeddus, cymanfaoedd, angladdau, &c, ond ni welais ef erioed yn un o honynt. Dichon na ellir galw ei fyw yn fywyd meudwyaidd, gan ei fod yn cymdeithasu gyda'r byd drwy fod yn gyfarwydd yn ei symudiadau. Nis gallaf dybio mai bywyd segur a dreuliodd. Deallai amryw ieithoedd—Y Gymraeg, Saesnaeg, Lladin, Francaeg, Ellmynaeg, Groeg, a Hebraeg. Darllenai gyfran o'r Hen Destament yn Hebraeg a chyfran o'r Testament Newydd yn yr iaith Roeg yn ddyddiol. Yr oedd hefyd yn rhifyddwr medrus, ac yn llenor deallus. Mae y cwestiwn yn codi, ond ni cheisiaf ei ateb, sef, pa un ai gwell ai gwaeth fyddai cymdeithas pe pawb fel Mr. Edwards? Gobeithiaf y cymer rhywun mewn Haw i ysgrifeau am y dyn hynod a galluog hwn.