fod ymhell oddiwrth eu gilydd, ac yr oedd ffynnon o ddwfr wedi ei darganfod rhwng y ddau wersyll, ond ei bod ychydig yn nes at y Ffrangcod nag at y Saeson; a phan y byddai milwyr y wlad hon yn myned i gyrchu dwfr iddi, byddai y gelyn yn cymeryd mantais arnynt, ac yn saethu llawer o honynt. Yr oedd colli ei ddynion fel hyn yn flinder mawr i ysbryd Wellington, ac nis gwyddai pa beth a wnai; yr oedd yn rhaid cael dwfr, ac nid oedd dim yn un lle arall i'w gael. Ond o'r diwedd gwelodd ei ffordd i gael dwfr, ac i arbed ei ddynion hefyd. Yr oedd ganddo ryw nifer o'r Ffrangcod yn garcharorion, a chymerodd hwy ac a'i gosododd yn gylch o gwmpas y ffynnon, fel na byddai modd i'r gelyn saethu y Saeson, heb ladd eu pobl eu hunain yr un pryd. Felly am y Tobacco yma, y mae lot o ddynion go dda yn sefyll o'i gwmpas, fel ag y mae yn anhawdd saethu ato heb eu harcholli hwy, yr hyn nas mynem er dim."
Cofus genym ei glywed yn dywedyd fel hyn, "Ni chymerwn i lawer a dywedyd fod cymeryd Tobacco a Snuff yn bechod mawr—mor fawr ag i gau y nefoedd rhagoch; ond byddaf yn teimlo felly bob amser, fod hyny y maent yn eu wneyd i ddyn yn ei ddarostwng. Ni ddywedaf fod hyny yn llawer, ond hyny ydyw,—ei dynu i lawr y maent. Cofus genym fod dau ŵr parchedig ar eu taith trwy ein gwlad; ac yr oedd un o'r ddau yn cymeryd Snuff, ac yr oedd wedi myned yn demtasiwn mor gref iddo fel y byddai yn rhaid cael y blwch o dan y gobenydd, fel y gallai ei ffroen yfed o hono yn y nos. Ond un noson fe annghofiodd y blwch, a chododd o'i wely i chwilio am dano; ond, wedi iddo ei gael, nid oedd dim ynddo. Wedi hyny bu yn ymbalfalu yn y t'w'llwch am y Snuff oedd ganddo mewn papyr, ac wrth geisio ei dywallt i'r blwch, collodd yr oll ar hyd y llofft. Wedi i'r anffawd hon ddigwydd, nid oedd ganddo ond disgyn ar ei balfau, a cheisio ei snuffio oddiar y llofft. Ni ddywedaf fod hyn yn bechod mawr ynddo, ond nis gallaf yn fy myw lai nag edrych arno yn ei ddarostwng yn fawr." Ac y mae yn ddiau fod y darllenydd yn bur barod i gydsynio âg ef.
Byddai yn bur hawdd hefyd ganddo daflu gair yn ei herbyn hithau,—"Deilen bach yr India," fel y galwai hi; a hyny am ddau reswm: credai nad oedd llawer o faeth ynddi; ac yr oedd bob amser yn barnu fod y dosbarth