phreys yn cael ei anfon gan y Cyfarfod Misol i ryw eglwys Île y byddai achos neillduol wedi tori allan, dywedai y cymydogion mor fuan ag y clywent pwy fyddai y llysgenadwr, "Ni bydd eisieu yr un crogbren y tro hwn." Wedi bod yn trin mater rhyw frawd yn Ll-n-f-n, dywedai cyfaill wrtho ar ol myned i'r tŷ, " Yr oeddwn yn eich gweled yn trin y ddysgyblaeth a'ch menig am eich. dwylaw, Mr. Humphreys."
"Mi fum yn poeni lawer gwaith," ebe yntau, "am fod yn rhy chwerw, ond ni phoenais erioed am fod yn rhy dyner."
Ond efallai mai mwy dewisol gan y darllenydd ydyw i ni gilio o'r neilldu, a galw Mr. Humphreys ei hunan yn mlaen, trwy yr hanesion ydym wedi eu derbyn am dano, fel y gallont ei weled yn myned trwy y gorchwyl o weinyddu dysgyblaeth.
Digwyddodd iddo fod mewn eglwys heb fod tu allan i Sir Feirionydd pan yr oedd achos bachgen lled ieuangc yn cael ei drafod. Y trosedd ydoedd myned i lân y môr ar y Sabbath. Yr oedd yr achos yn cael ei roddi ger bron gan hen ŵr ffyddlon a chydwybodol iawn dros gadwraeth y Sabbath, ac yr oedd yn eithaf amlwg ei fod wedi bwriadu yn sicr ddiarddel y bachgen. Coffaai am y cynutwr hwnw a labyddiwyd â meini am halogi dydd yr Arglwydd, a dywedai nad oedd yr hyn a wnaeth yntau yn ddim llai pechod, nac yn haeddu dim llai cospedigaeth. Wrth weled cyfeiriad y sylwadau mor uniongyrchol i fwrw y llangc dros y drws, dywedai Mr. Humphreys :—"Gwir nad yw halogi y Sabbath yn ddim llai pechod nag oedd y pryd hwnw, ond yn hytrach yn fwy: ond cofier nad ydym ni dan yr un oruchwyliaeth ag oedd y cynutwr." Ac yna cymerodd yr ymddyddan canlynol le rhwng Mr. Humphreys a'r bachgen :
"A fuost ti yn nglan y môr ar y Sabbath ?"
"Do, mi fum," ebe yntau.
"A ydyw yn edifar genyt fyn'd?" gofynai Mr. Humphreys.
Ydyw yn wir, yn edifar iawn genyf," oedd yr ateb. Yna gofynodd y gweinidog drachefn, "A wnei di beidio a myn'd byth yn ychwaneg ?"
"Na, ni bydd i mi byth fyn'd eto," oedd yr ateb.
Wedi cael y gyffes hon ganddo, dywedai Mr. Humphreys wrth y frawdoliaeth, "Mi a'ch cynghorwn gyfeill-