Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/116

Gwirwyd y dudalen hon

yn gyru y car yn perthyn i'r seiat yn y dref lle yr oedd yn byw; ac nid oedd yn gallu cael ond y moddion nos Sabbath yn unig. Pan oedd y cerbyd yn myned heibio, gofynai y cyfaill i Mr. Humphreys,

"A ydych chwi yn meddwl fod yn iawn i grefyddwr gyflawni gorchwyl fel hyn ?"

Beth fyddai i chwi newid y cwestiwn, W. E., gofynai yntau, "A ydyw yn iawn i ddyn ei gyflawni? Ac os ydyw, mi allwn i feddwl mai crefyddwr ydyw y goreu i'w gyflawni."

Anfonwyd Mr. Humphreys a'r hen flaenor hynod William Ellis, o Faentwrog, i eglwys lle yr oedd gweinidog a chanddo gŵyn yn erbyn rhai o'r aelodau. Cwynai y gweinidog wrth y ddau fod llawer o ddynion hyfion yn cyfodi yn yr eglwysi—dynion nad ofnent Dduw ac na pharchent ei weision. "Wel D. bach," ebe W. Ellis, "nid oes dim i'w wneyd ond ceisio dringo yn uwch i'r mynydd, gael i'n gwynebau ddysgleirio gormod i ddynion cnawdol fel yna allu gwneyd yn hyfion arnom." "Nis gwn a ydych yn iawn ai peidio, William," ebe Mr. Humphreys, ac ychwanegai, "ni bu gŵr erioed yn llenwi ei gadair yn well na Moses, ond yr oedd rhyw Jannes a Jambres i'w cael yn ddigon hyfion i godi yn ei erbyn ef."

Yn Nghyfarfod Misol Corris flynyddoedd yn ol galwyd sylw at achos yr hen frawd Owen Williams, Towyn. Yr oedd wedi arwain ei hunan ac eraill i brofedigaeth wrth gloddio y ddaear am ei chyfoeth mwnawl. Credai fod llawer o hono ar ei gyfer, a gobeithiai ei fod yn ei ymyl. Llawer gwaith y dywedodd ei fod o fewn "tew' cosyn" i'r wythïen y chwiliodd gymaint am dani; ond nis gwyddom pa le y gwelodd gosyn a'r fath drwch ynddo. Rhoddwyd llawer o rybuddion difrifol iddo, ac yr oedd rhai o'i frodyr llefaru yn galed wrtho. O'r diwedd cododd Mr. Humphreys ar ei draed, a dywedodd, "Derbyniwch y cwbl yn garedig Owen Williams, a chredwch mai nid am eich gyru i'r ddaear yr ydym, ond am eich cadw o'r ddaear."

"Yn wir, Humphreys bach," ebe yntau, "nid yw y cwbl sydd yn cael ei ddywedyd am danaf yn wir; ni chaf fi fyned â na chaib na phal na rhaw ar fy ysgwydd, na byddant yn dyweyd mai myn'd i chwilio am fŵn y byddaf."

"O," meddai Mr. Humphreys, " mi fyddaf finau a chaib