AT Y DARLLENYDD
Nis gwn a ddysgwylir i mi roddi unrhyw esgusawd dros
anturio dwyn allan Gofiant am y diweddar hybarch Richard
Humphreys o'r Dyffryn ai peidio: credwyf na wneir.
Onid oedd y neillduolion a ddisgleirient mor amlwg yn i
gymeriad, a'r safle uchel a enillodd fel dyn, gwladwr,
cristion, a gweinidog cymhwys y Testament Newydd, yn
cyfiawn haeddu i'r deyrnged hon o barch gael ei thalu i'w
goffadwriaeth? Buasai yn dda genyf pe syrthiasai i law
rhywun mwy cymhwys na mi i osod allan mewn trefn ei
hanes: ond er bod yn ymwybodol o fy annghymhwysder,
yr oedd y parch dwfn a deimlwn i'w goffadwriaeth yn
cymhell fy meddwl i edrych beth ellid wneyd er casglu
adgofion am dano. Gwyddwn cyn dechreu fod y gwaith
yn fawr, gan fod yn rhaid casglu y defnyddiau oddiar gof
y rhai a'i hadwaenai, a llawer o'r rhai hyny fel yntau
wedi huno. Ond er hyny credwn fod ei sylwadau doeth
a'i atebion pert—fel yr esgyrn hyny—yn wasgaredig ar
hyd wyneb y Dyffryn, ac ardaloedd eraill; ac ar ol gwneyd
fy mwriad o'u casglu at eu gilydd yn hysbys trwy y
Cyfarfod Misol, Y Goleuad, a llythyrau cyfrinachol,
dechreuodd asgwrn dd'od at ei asgwrn; ac fel yr oeddynt
yn dyfod i law, ymdrechais i gyfodi gïau a chig arnynt,
a'u gwisgo â chroen, a gwnaethum fy ngoreu i anadlu