Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/127

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD X.

MR. HUMPHREYS A'I SYLWADAU.

DYWEDASOM yn barod nad oedd Mr. Humphreys yn arfer ysgrifenu ei bregethau, nac hyd yn nod fraslun o honynt. Hysbysir ni gan y Parch. Robert Griffth, Bryncrug, yr hwn a fu am flynyddoedd yn ei wasanaeth, a'r hwn oedd wedi craffu ar ei arferion gyda phob peth, mai ei ddull cyffredin fyddai cymeryd rhyw fater i fyny, a'i droi yn ei fyfyrdodau, a'i wneyd yn destyn ei ymddyddanion, a thrwy y dull hwn y byddai yn toddi y gwirionedd yn ei fold ei hunan; yna edrychai am adnod briodol yn destyn, a phregethai yn rhwydd a blasus oddiwrthi. Y mae yr hanesyn canlynol, yr hwn a dderbyniasom gan gyfaill oedd yn adnabyddus iawn o Mr. Humphreys, yn cadarnhau yr hyn a ddywedwyd yn barod. Ni a'i dodwn ef i lawr yn ngeiriau ein hysbysydd. "Yr argraff benaf sydd ar fy meddwl am Mr. Humphreys ydyw y modd y byddwn yn teimlo ar ol bod yn ei gymdeithas, y byddai genyf rywbeth gwerth i'w gofio, ac i feddwl am dano. Y mae yn gofus genyf am un tro neillduol y bum gydag ef yn Bethesda. Yr oedd yn teimlo yn bur wael, ac oblegyd hyny arhosodd yn y tŷ yn lle myned i'r ysgol, a gofynodd i minau aros gydag ef. Mor fuan ag y cawsom y lle i ni ein hunain, dechreuodd ofyn cwestiynau i mi, a'r cyntaf a ofynodd oedd, Pa un ai peth mawr ai peth bychan oedd y cryfaf?' Fel y gellid tybied yr oedd yr ateb yn barod genyf, Y mawr ydyw y cryfaf.' Nage,' meddai yntau, Y bychan o ddigon. Pe byddai i lygoden syrthio o ben ysgubor ar y llawr, mi redai ymaith mor fuan ag y gallai gael ei thraed dani; ond pe byddai i fuwch gael codwm felly, yno y byddai hi. Y mae plant bychain yn cael codymau pur enbyd weithiau. Pe byddai i ddyn trwm syrthio felly, mi fyddai yn ddigon i dori ei esgyrn ef. Meddwl di eto fod cwch bychan cryf iawn, a gwisg haiarn am ei flaen ef: pe byddai i hwnw