wybod iddo. Wrth drin y byd gwnewch allowance fod tipyn glew o duedd mewn dynion yn gyffredin atynt eu hunain."
"Os yr Arglwydd sydd Dduw ewch ar ei ol ef; ond os Baal ewch ar ei ol yntau.—Ni chawn ni ddewis ein Creawdwr ; ond am ein Duw, cawn ddewis hwnw. Y mae yn bwysig iawn pwy a ddewiswn yn Dduw, oblegyd bydd delw y Duw a ddewiswn yn sicr o fod arnom. Oes, fy mhobl i, y mae gan Dduw fodd i roddi ei ddelw ar ei blant. A ddarfu i chwi sylwi ar y Manufacturers mawr yna yn Llundain a Birmingham: ar ol gwneyd eunwyddau a'u harfau, maent yn rhoddi stamp arnynt gael i bawb wybod pwy a'u gwnaeth. Felly yn union y mae y Duw mawr yn gwneyd; wedi iddo greu y greadigaeth a'r cwbl sydd ynddi, cyn ei gadael rhoddodd yntau ei stamp arni i ddangos pwy yw ei hawdwr. Ond nid ei stamp a'i enw y mae yn ei roddi ar ei blant, y mae yn gosod ei ddelw arnynt hwy."
"Twyll pechod.—Po fwyaf a fydd ein cymdeithas a Duw ac a dynion, mwyaf oll fydd ein hadnabyddiaeth o honynt ; ond po fwyaf oll fydd ein cymdeithas a phechod, lleiaf oll fydd ein hadnabyddiaeth o hono."
"Cusenwch y Mab rhag iddo ddigio.—Nid y dosbarth anhawddaf eu digio yw y merched, ac fel merched yn gyffredin bydd Ann yn digio weithiau. Ond yr wyf wedi darganfod meddyginiaeth anffaeledig, ni raid i mi ond gafael yn un o'r plant, a'i anwylo, na fydd pob peth yn dyfod i'w le ar unwaith. Fy mhobl i, os mynwch fyned at galon Duw, cusenwch ei Fab ef."
"Plesio Duw.—Yr wyf yn gwybod i mi bechu llawer yn erbyn Duw, ond yr wyf yn bur siwr fy mod wedi gwneyd un peth sydd yn ei blesio yn fawr—yr wyf wedi derbyn ei Fab Ef."
"Mae genym Dduw galluog—gall wneyd dyno bren mawnog; ond beth y gwnaf son am hyny? rhyfeddach lawer, gall wneyd sant o bechadur."
"Nis gallaf ddyweyd fawr am y nefoedd, ond dywedaf hyn, Mae yno ddigrifwch yn dragywydd.'"
"Ofni yr hyn sydd anocheladwy.—Peth ffol iawn i ddyn ydyw ofni yr hyn sydd anocheladwy. Doethineb dynion gyda phethau felly ydyw ymbarotoi ar eu cyfer. Waeth i chwi heb ofni y gauaf, oblegyd, ofni neu beidio, dyfod a wna. Felly am angeu, waeth i chwi heb ei ofni, eich doethineb ydyw parotoi ar ei gyfer."