Dduw fyddo ei gartref, pobl Dduw fyddo ei bobl tra byddo yr ochor yma, a nefoedd Duw fyddo yn gartref iddo wedi myned oddiyma." Byddai yr erfyniadau hyn yn cael eu gwisgo gyda'r fath ddifrifwch, a'u llenwi a'r fath deimlad, fel y byddai yn dwyn argyhoeddiad i bob mynwes fod ei galon ar ei wefus; a diau fod yr erfyniadau taerion hyn wedi eu gwrando ar ran llawer o fabanod a gymerodd yn ei freichiau. Clywsom wraig o Sir Aberteifi yn dyweyd ei fod pan yn bedyddio baban iddi wedi prophwydo y byddai y bychan yn ddefnyddiol gydag achos yr Arglwydd, a gweddïodd yn daer am iddo gael bod felly; ac y mae y baban hwnw erbyn hyn yn weinidog parchus yn Neheudir Cymru, gyda'r Trefnyddion Calfinaidd.
Y mae llawer o'r rhai a fu mor garedig ag anfon yr adgofion oedd ganddynt am Mr. Humphreys yn gwneyd cyfeiriadau mynych at ei weddïau. Nid ato fel gweddiwr doniol; yr oedd efe yn ddoniol yn gweddïo fel yn pregethu. Y mae llawer siaradwr hyawdl yn afrwydd iawn pan yn ceisio gweddïo; ond cyfeiriant ato fel gweddiwr difrifol, doeth, a gafaelgar, ac at ei weddïau fel rhai eang, manwl, a chynwysfawr. Ni byddai yn rhy brysur a'i enau, ac ni frysiai ei galon i draethu dim ger bron Duw, canys yr oedd yn ystyried fod Duw yn y nefoedd, ac yntau ar y ddaear, am hyny byddai ei eiriau yn anaml. Gallem feddwl oddiwrth y gwahanol gyfeiriadau a wneir ato, yn nghyd a'n hadgofion ein hunain am dano yn gweddïo, y byddai yn cael defnydd ei weddïau yn ei fyfyrdodau. Credwn y cytuna y darllenydd—os yw yn arfer gweddïo—mai gwaith anhawdd iawn ydyw gweddïo, os na bydd defnydd y weddi yn y myfyrdod. Y mae y Parch. R. Griffith, Bryncrug, yn ei adgofion am ei hen feistr, yn dyweyd fel hyn am dano fel gweddïwr. "Yn Sassiwn Pwllheli, yn dechreu yr oedfa ddau o'r gloch, y gwelais i Mr. Humphreys y tro cyntaf i mi ei adnabod, ac fe dynodd fy sylw i edrych a gwrando arno yn y modd mwyaf astud. Yr oeddwn yn ei weled yn un o'r dynion harddaf a welswn erioed, ac yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb o'i frodyr oedd gydag ef ar yr esgynlawr. Yr oedd tegwch ei wedd a glendid ei lygaid yn nodedig, canys yr oedd yn mlodeu ei ddyddiau, yn llawn deugain mlwydd oed. Yr oedd ei lais yn dyner a soniarus, ac eto yr oedd yn darllen yn ddigon uchel i'r dyrfa fawr ei