PENNOD XII.
MR. HUMPHREYS YN EI DDYDDIAU OLAF.
BUASAI pawb oedd yn adwaen Mr. Humphreys yn tybied, oddiwrth yr olwg gadarn a heinyf oedd arno yn ei flynyddoedd goreu, y buasai yn bur ddidrafferth yn gallu cyrhaedd ei bedwaredd ugeinfed flwyddyn, ac na buasai ei nerth yn llawer o boen a blinder iddo am dymor wedi iddo fyned heibio iddynt. Astudiodd ddeddfau iechyd yn fanwl, a byddai yn dra gofalus i'w cadw. Ymwrthodai bron yn hollol â moethau bywyd, a dewisai yn hytrach yr ymborth mwyaf iachus a maethlon. Yr oedd teulu y Faeldref yn myned at eu boreufwyd unwaith, pryd yr oedd ar y bwrdd dê wedi ei barotoi ar gyfer y mwyafrif o honynt, a chwpaned o gruel wedi ei wneyd iddo yntau, yn ol ei ddymuniad: wedi i bawb eistedd o amgylch y bwrdd, dywedai Mr. Humphreys, "Wel, dowch Morgan, gofynwch fendith ar y tê yna, y mae bendith yn fy mwyd i." Byddai yn cymeryd digon o ymarferiad corphorol, trwy y gorchwylion a gyflawnai yn barhaus o amgylch y fferm; a chlywsom y byddai ar ryw adegau yn myned o dan gafn yr olwyn ddŵr oedd ganddo, yr hwn a wasanaethai yn lle shower-bath iddo. Ond er fod pob peth yn rhoddi lle i obeithio y buasai yn cael ei ddigoni â hir ddyddiau," dangoswyd ynddo yntau, fel pawb a fu o'i flaen, mai gwir yw y gair," Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes: . . . yr hwn sydd heddyw, ac yfory a fwrir i'r ffwrn." Cydnabyddai yn ei gystudd ei fod wedi cael oes o iechyd da, ac nid ydym yn cofio clywed am ddim salwch neillduol arno, ond unwaith, sef yr amser y cymerwyd ef yn glaf wrth ddychwelyd o Lundain, pryd y bu yn gorwedd yn yr Amwythig am rai wythnosau. Yr oedd hyn o gylch y flwyddyn 1825. Achosodd yr afiechyd hwn bryder mawr i'w deulu a'i gymydogion yn y Dyffryn a'r amgylchoedd, a byddai llawer o weddïo drosto ac o holi yn ei gylch. Pan y gwellhâodd fel ag i allu dychwelyd adref, byddai llawer yn cyrchu i'r Faeldref i edrych am